Dalgylchoedd integredig ar gyfer cynaladwyedd amgylcheddol
Defnyddio dull seiliedig ar ddalgylchoedd i ddeall cadernid ecosystemau a gwasanaethau ecosystem.
Amdan
Mae rheoli adnoddau dŵr ar gyfer gwasanaethau ecosystem yn cynnwys darparu dŵr glân i bobl, pysgodfeydd cynaliadwy a rheoli llifogydd. Mae ymchwil yn dangos bod ecosystemau dŵr croyw yn dirywio'n gyflymach nag eraill oherwydd ecsbloetio. Mae gwneud penderfyniadau ar lefel dalgylch yn fater sy’n cael ei herio ac mae gweithredu cydgysylltiedig ar lefel dalgylch yn peri heriau i randdeiliaid a sefydliadau rheoleiddio. Fodd bynnag, mae llywodraethau'n cefnogi gweithredu â ffocws lleol ar gyfer dalgylchoedd dŵr a chynnwys gwyddoniaeth dinasyddion. Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws graddfeydd ac yn profi dalgylchoedd i greu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Systemau dalgylch
Dysgwch fwy am rai o’r dalgylchoedd y mae ein hymchwilwyr yn gweithio arnynt yng Nghymru, y DU a thu hwnt:
- Afon Hafren
- Afon San Pedro, UDA
- Astudiaethau traws-ddalgylchol cronfa ddata fawr yn y DU ac yn fyd-eang
Ymchwil PhD
Uchafbwyntiau prosiect
Ers dros 40 mlynedd, mae ein hymchwilwyr wedi bod yn casglu data i ddeall sut i gydbwyso cynaliadwyedd dŵr croyw â ffyniant cymdeithasol mewn byd ansicr.