Astudiaeth o Wytnwch yn y Sector Dŵr – Dŵr Cymru
Bwriad yr astudiaeth hon oedd nodi heriau o ran gwytnwch sy'n dod i'r amlwg yn y sector dŵr, a hynny er mwyn llywio strategaeth Dŵr Cymru yn well.
Mae digwyddiadau tywydd eithafol, isadeiledd dŵr sy’n heneiddio, a thwf y boblogaeth ar hyn o bryd i gyd yn ffactorau sy’n debygol o gael effaith ar gyflenwyr dŵr y DU yn y dyfodol. Gan weithio ar y cyd â phartneriaid yn y byd academaidd i lunio'r adroddiad hwn, gobaith Dŵr Cymru oedd (a) gwella ei ddealltwriaeth o'r heriau y mae'n eu hwynebu, (b) gwella’r gwaith cynllunio gwytnwch a (c) llywio strategaeth hyd at 2050.
Yn y cyd-destun hwn, edrychodd y grŵp arbenigol ar bethau a allai sbarduno newidiadau mawr yn gymdeithasol, yn dechnolegol, yn economaidd, yn amgylcheddol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol. Ymchwiliodd y grŵp i ddulliau seiliedig ar senarios i fynd i’r afael â dyfodol credadwy. Hefyd, cafodd meysydd ymchwil sy’n flaenoriaeth eu pennu ar sail y bylchau yn yr wybodaeth ac ansicrwydd.
Cyfrannodd y gwaith hwn at strategaeth Dŵr Cymru 2050, gan gefnogi gwytnwch Dŵr Cymru at y dyfodol.
Tîm y prosiect
Yr Athro Isabelle Durance
Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr
- durance@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484
Yr Athro Max Munday
Director of Welsh Economy Research Unit
- mundaymc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5089