Plastigau: o'r ffynhonnell i'r sinc

Ymchwilio i ffynonellau, trosglwyddiadau a goblygiadau ecolegol llygredd plastig ar draws amgylcheddau dŵr ffres.
Amcangyfrif bod rhwng wyth a deuddeg miliwn tunnel o blastig yn mynd i gefnforoedd y Byd bob blwyddyn, ac mae tua phedair miliwn tunnell ohono yn teithio ar hyd ei afonydd.
Mae ein hymchwil yn dangos bod darnau microplastig - darnau o sbwriel plastig o dan bum milimetr – yn cael ei fwyta gan un ym mhob dau bryfyn yn afonydd De Cymru (Afonydd Taf, Afon Wysg ac Afon Gwy).
Mae’n darparu mwy o dystiolaeth bod angen astudio microplastig yn llawn wrth iddynt gael eu trosglwyddo rhwng y tir a’r môr ar hyd afonydd.

"Mae gennym fan dall mawr. Mae angen i ni fuddsoddi mewn deall ffynonellau a llwyth amgylcheddol gwahanol ddeunyddiau. Beth sy'n digwydd i'r deunyddiau hyn wedyn? Faint sy'n cael ei fwyta gan organebau? Pa mor bell mae'n treiddio i'r gweoedd bwyd? Pa effaith mae'n ei chael ar hyd y ffordd? A yw'n ein cyrraedd yn y bwyd rydym yn ei fwyta neu'r dŵr rydym yn ei yfed?"
Fel rhan o’r ymchwil, mae astudiaethau sy’n seiliedig ar waith maes yn cael eu cynnal yn Arsyllfa Llyn Brianne, lle mae cafnau arbrofol yn cael eu defnyddio i ddeall sut mae microffibrau plastig yn effeithio ar infertebratau nentydd yn eu hamgylchedd. Cynhelir ymchwiliadau hefyd i bysgod ac adar yr afon.

Tîm y Prosiect

Yr Athro Isabelle Durance
Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr
- durance@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484
Mae arsyllfa Llyn Brianne yng nghanolbarth Cymru ymhlith un o'r prosiectau dalgylch hynaf yn y byd.