Dyfodol dŵr daear
Deall potensial dŵr daear i gynnig dyfodol trefol cynaliadwy yn Affrica.
Ledled Affrica, disgwylir i'r boblogaeth drefol ddyblu i bron i 1 biliwn o bobl yn ystod y 25 mlynedd nesaf, gyda rhai o'r cyfraddau twf cyflymaf yn y byd. Mae sicrhau mynediad at ddigon o ddŵr yn her fawr, ac yn gynyddol ystyrir mai dŵr daear yw'r ateb mwyaf ymarferol.
Seminar Dyfodol Dŵr Daear yn Affrica Drefol
Roedd y seminar ryngddisgyblaethol 'Dyfodol Dŵr Daear yn Affrica Drefol' yn archwilio goblygiadau'r pwysau trefol cynyddol ar ffynonellau dŵr daear yn Affrica, ac ar systemau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n dibynnu arno.
Yn benodol, roedd yn ystyried y duedd gynyddol o gomisiynu tyllau turio preifat, a goblygiadau hyn ar gyfer gwydnwch tai a chanolfannau trefol, nawr ac yn y tymor hir.
Cyflwyniadau'r gweithdy
Rhagor o wybodaeth
Dr Christopher Hubbard
Research and Impact Officer (Water Research Institute)
- hubbardcg@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4667