Gweithdai ar Dueddiadau Eithafol yn y Tywydd (Tywydd GDE)
Ymunwch â ni yn 2022 ar gyfer ein hail Weithdy ar Dueddiadau Eithafol yn y Tywydd (Tywydd GDE) i drafod addasrwydd data a dulliau ar gyfer gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau prin a pheryglus mewn hinsawdd sy’n cynhesu.
Mae'r digwyddiadau tywydd mwyaf peryglus, yn ôl eu natur, yn brin. Un o’r heriau mwyaf i ymchwilwyr hinsawdd yw’r cais cymdeithasol am wybodaeth am newidiadau i amlder a maint digwyddiadau eithafol a risgiau canlyniadol i gymunedau a’r amgylchedd yn y degawdau i ddod.
Yn sgil rhyddhau amcanestyniadau hinsawdd y DU 2018 (UKCP18), bydd ein hail weithdy yn darparu fforwm ar gyfer trafod addasrwydd data a dulliau i ateb cwestiynau am ddigwyddiadau eithafol yn y dyfodol.
Cynhaliwyd ein gweithdy cyntaf yng Ngregynog rhwng 29 Ebrill a 1 Mai 2019. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, edrychwch ar ein crynodeb neu ar dudalen digwyddiad gweithdy 2019 Prifysgol Caerdydd. Mae sleidiau cyflwyniad hefyd ar gael ar gais.
Cysylltwch â Kirstin Strokorb os dymunwch eu derbyn.
Hoffem ddiolch i holl siaradwyr 2019, cyflwynwyr posteri a mynychwyr am eu cyfraniadau rhagorol.
Siaradwyr wedi'u cadarnhau ar gyfer 2022
- Petra Friederichs (Uwch Ddarlithydd mewn Dynameg Hinsawdd)
- Douglas Maraun (Pennaeth Grŵp Modelu Hinsawdd Rhanbarthol, Canolfan Wegener ar gyfer Newid Hinsawdd a Byd-eang, Graz, Awstria)
- Claudia Neves (Darlithydd Ystadegau, Coleg y Brenin Llundain, Cymrodoriaeth Arloesedd EPSCR mewn Rhagweld Peryglon Lluosog)
- Holger Rootzen (Athro Mathemateg Gymhwysol ac Ystadegau, Prifysgol Gothenburg)
- Thordis Thorarinsdottir (Prif Wyddonydd Ymchwil, Canolfan Gyfrifiadura Norwy).
Dyddiadau
19 i 21 Medi 2022.
Yn wyneb y newyddion trist presennol, marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II, a’r angladd a gynhaliwyd ar 19 Medi, byddwn yn diwygio’r amserlen.
Cofrestru
Mae'r cofrestri wedi cau.
Lleoliad
Mae meithrin cyd-ddealltwriaeth o'r heriau dan sylw, egluro cyfleoedd a meithrin perthnasoedd gwaith yn un o brif nodau'r gyfres hon o weithdai.
Er mwyn hwyluso’r dysgu a’r myfyrio, byddwn yn cynnal ein gweithdai yng nghanol cefn gwlad hyfryd Cymru yng Ngregynog, ymhell o fwrlwm bywyd modern.
Gwybodaeth teithio
Trwy drafnidiaeth gyhoeddus
Y maes awyr agosaf yw Birmingham International. Mae trenau rheolaidd o Birmingham International a dinasoedd eraill y DU i'r Drenewydd (Cymru). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Great Western Railway. Cyn y cyfarfod, byddwn yn holi am eich amser cyrraedd yn yr orsaf fel y gallwn drefnu i'ch codi oddi yno.
Yn y car
Mae cyfarwyddiadau ar gael ar wefan Gregynog.
Cysylltu
Ysgrifennwch at wetweather@caerdydd.ac.uk am unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Trefnwyr
These workshops are supported by the Royal Statistical Society.