Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau

Grŵp ystwyth newydd

Mae Senedd y Dyfroedd yn grŵp ystwyth newydd Sefydliad Ymchwil Dŵr. Pe gallai dyfroedd croyw siarad, beth fyddent yn ei ddweud? A ddylid rheoli dyfroedd croyw ar y cyd? A oes angen cynrychiolaeth gyfreithiol ar ddyfroedd croyw? Ymunwch â ni am drafodaeth agored dros ginio 2 Mai 2024, 13:00-14:30  yn y Sefydliad Ymchwil Dŵr, W/0.12 adeilad Syr Martin Evans. Mae'r digwyddiad yn agored i holl staff addysgu ac ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Cadwch eich lle yma neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Logo Senedd o Ddyfroedd

Gweminarau

Mae ein hymchwilwyr cyswllt yn gweithio ar ystod o bynciau sy'n ymwneud â dŵr. Gwyliwch ein gweminarau i ddysgu rhagor am eu gwaith presennol.

Gwyliwch Yr hawl dynol i ddŵr a’r her dŵr trefol

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth:

Sefydliad Ymchwil Dŵr