Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Ymchwil Dŵr

Cymuned ryngddisgyblaethol sy'n mynd i'r afael â her fawr rheoli dŵr yn gynaliadwy ar gyfer pobl ac ecosystemau mewn byd sy'n newid.

Hyfforddi cenhedlaeth newydd o arweinwyr i drawsnewid sut rydym yn rheoli iechyd amgylcheddol dyfrol trwy Systemau Digidol Amser Real Seiliedig ar Ddŵr.

Newyddion diweddaraf

Samplau cynhesach ar gyfer byd oerach

4 Chwefror 2025

Trwy storio samplau dŵr gwastraff ar dymheredd uwch, gall labordai leihau'n sylweddol faint o ynni y maen nhw’n ei ddefnyddio, a thrwy hynny leihau eu hallyriadau carbon, heb effeithio cywirdeb samplau yn sylweddol.

Astudiaeth newydd sy’n datgelu lle mae cyflwr afonydd Cymru a Lloegr wedi dirywio ers 1990

13 Rhagfyr 2024

Er gwaethaf gwelliannau eang yn iechyd afonydd rhwng 1991 a 2019, mae ymchwilwyr wedi darganfod arwyddion sy’n peri pryder ar gyfer rhai o'r afonydd mwyaf amrywiol yn fiolegol.

Aerial photograph of the River Wye surrounded by farmland.

Nid yw canolbwyntio ar ffosffad yn “fwled arian” i ymdrin â phroblemau ansawdd y dŵr yn afon Gwy, yn ôl adroddiad

5 Medi 2024

Mae’r astudiaeth yn galw am ddull cyfannol i atal dirywiad yr afon

Mae gennym berthnasau hirdymor gyda phartneriaid diwydiannol, academaidd, o'r llywodraeth a rheoleiddio, a'r trydydd sector.

Cysylltwch â’n tîm i gael rhagor o wybodaeth am y sefydliad a sut gallwch weithio gyda ni.

Rydym yn cynnal ymchwil ar iechyd pobl ac ecosystemau ar hyd afonydd trefol de-ddwyrain Cymru.