Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Student speaking with lecturer.
Mae pob un o’n staff academaidd yn arbenigwr yn ei faes ac yn brofiadol ynghylch dysgu a goruchwylio ymchwil.

Rydyn ni’n cynnig amryw gyrsiau rhan-amser ac amser llawn ynglŷn â’r gyfraith, llywodraethu a gwleidyddiaeth.

Cyrsiau ôl-raddedig a addysgir

Rydyn ni’n cynnig MSc Econ Llywodraethu a Gwleidyddiaeth Cymru o dan adain yr Athro Richard Wyn Jones.

Mae modd astudio naill ai’n amser llawn neu’n rhan-amser - bydd y darlithoedd y tu allan i oriau gwaith arferol er hwylustod i bobl sy’n gweithio’n amser llawn.

At hynny, rydyn ni’n cynnig LLM Llywodraethu a Datganoli o dan adain yr Athro Dan Wincott, a bydd modd astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser, hefyd.

Rhaglenni ymchwil ôl-raddedig

Rydyn ni’n frwd ynghylch dod o hyd i ymchwilwyr ifanc dawnus a chydweithio â nhw. Mae’n staff academaidd yn brofiadol ynglŷn â goruchwylio ac arholi graddau ymchwil a byddan nhw’n croesawu ymholiadau a cheisiadau am astudio.

Llwybr i radd gyntaf

Mae gan lwybr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol chwe modiwl 10 credyd yr un.

Mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd a’r bwriad yw rhoi i fyfyrwyr y medrau a’r wybodaeth angenrheidiol i astudio ar gyfer gradd Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol.

Cyflwynir y cwrs trwy Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol y Brifysgol.

Cyrsiau hyfforddi

Rydyn ni’n gallu llunio cyrsiau hyfforddi penodol i sefydliadau proffesiynol ynghylch gwleidyddiaeth, polisïau a’r gyfraith.