Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae’n prosiectau ymchwil yn mynd rhagddynt o dan adain arbenigwyr perthnasol ac yn astudio materion a thueddiadau sy’n effeithio ar Gymru.

Didolir ein hymchwil yn ôl pedwar prif bennawd:

  • yr economi wleidyddol
  • gwleidyddiaeth a llywodraethu
  • Cymru a Brexit
  • cyfraith Cymru.

Yr economi wleidyddol

Mae dulliau ariannu llywodraethau datganoledig a rhanbarthol yn fater pwysig yn y deyrnas hon a’r byd ehangach o ran llywodraethu tiriogaethau is-wladwriaethau. Trwy ein gweithgareddau, hoffen ni gadw golwg ar y trafodaethau pwysig hyn a chyfrannu iddynt.

Prosiectau cyfredol

Dadansoddiad Ariannol Cymru

Mae Dadansoddiad Ariannol Cymru yn brosiect sy’n mynd rhagddo i ddysgu rhagor am faterion ariannol cyhoeddus Cymru. Trwy ddadansoddi manwl, bydd y prosiect yn ymateb i sefyllfaoedd ariannol ac yn cynnal ymchwil i bob agwedd ar wariant gwladol yma.

Gwleidyddiaeth a llywodraethu

Mae datganoli wedi newid natur y llywodraethu a’r wleidyddiaeth yng Nghymru gan greu sefydliadau gwleidyddol gwahanol a threfn frodorol i bleidiau. Hoffen ni asesu effaith datblygiadau sefydliadol, cyfansoddiadol a phlaid-wleidyddol yng Nghymru gan eu hystyried mewn cyd-destun cymharol.

Prosiectau cyfredol

European Flags

Ewrop a Datganoli – Canolfan Cymru a'r UE

Mae tîm y Ganolfan yn ystyried y goblygiadau i wlad ddatganoledig, sef Cymru, yn sgîl gadael Undeb Ewrop.

Senedd

Astudiaeth Etholiad Cymru

Astudiaeth i ddeall y ddeinameg wleidyddol o gwmpas etholiad 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cymru a Brexit

Mae ymchwil i broses tynnu allan o Undeb Ewrop yn flaenoriaeth allweddol i ni. Mae amrywiaeth o ymchwil academaidd a gweithgarwch ymgysylltu cyhoeddus yn mynd rhagddi yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru.

Prosiectau cyfredol

Brexit EU sign

Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit

Prosiect ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), o dan nawdd Sefydliad yr Addysg Gyfreithiol. Ein nod yw grymuso a galluogi’r trydydd sector i ddeall Brexit ac ymgysylltu â’r broses trwy roi gwybodaeth hawdd ei darllen a rôl gydlynu.

Cyfraith Cymru

Mae datganoli wedi arwain at ddatblygu Cymru ymhellach yn lle cyfreithiol gwahanol o ganlyniad i wahaniaethau yn y gyfraith gyhoeddus yn ogystal â rhwydwaith mwyfwy gwahanol o sefydliadau cyfreithiol. Hoffen ni feithrin arbenigedd yng nghyfraith Cymru ac asesu datblygiadau ynddi.

Prosiectau cyfredol

Cyfiawnder ac Awdurdodaeth

Dyma brosiect rhyngddisgyblaethol sy'n dod â gwyddonwyr gwleidyddol, arbenigwyr ym maes y gyfraith gyfansoddiadol a throseddolegwyr ynghyd i ymchwilio i’r canlynol:

  • y modd mae trefn cyfiawnder Cymru yn gweithredu
  • perthynas polisïau datganoledig â’r rhai sydd heb eu datganoli
  • effaith trefn gyfreithiol unffurf 'Cymru a Lloegr'.

Bydd y prosiect yn cyfrannu i waith y Comisiwn dros Gyfiawnder yng Nghymru, sydd wedi’i sefydlu gan y Prif Weinidog i adolygu’r modd mae trefn cyfiawnder y wlad yn gweithredu.

Prosiectau blaenorol

View of Cardiff from Cardiff Bay

Undeb cyfnewidiol y Deyrnas Gyfunol

Prosiect ymchwil ac ymgysylltu tair blynedd wedi’i sefydlu yn ymateb i adolygiad o drefn datganoli Cymru.

UK Currency

Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru

Dadansoddiad cynhwysfawr o wariant gwladol Cymru dros rai blynyddoedd ynghyd ag incwm y sector cyhoeddus a daliannau cyfan y wlad.