Carolyn Hitt
Mae Carolyn Hitt yn newyddiadurwr, darlledwr ac awdur llawrydd o Gymru.
Ganwyd Carolyn Hitt yn Llwynypia, Cwm Rhondda, ac astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Newyddiaduraeth a darlledu
Ar ôl hyfforddi gyda'r Neath Guardian a'r Merthyr Express, ymunodd Carolyn â’r Western Mail ym 1992, lle bu'n olygydd ysgrifau gan ennill gwobr Awdur Ysgrifau’r Flwyddyn yng Nghymru ym 1998. Y flwyddyn honno, dechreuodd weithio ym maes darlledu, gan ymuno â chwmni teledu a radio annibynnol Presentable Cyf. Yn 2012, roedd un o sylfaenwyr (merched i gyd) cwmni cynhyrchu Parasol Media Cyf.
Mae hi wedi ysgrifennu a chyflwyno cyfresi radio am y celfyddydau, diwylliant poblogaidd, materion defnyddwyr, materion merched, hanes a chwaraeon ar gyfer Radio 4, BBC Cymru ac ITV Cymru. Yn rôl cynhyrchydd, mae wedi cydweithio â rhai o enwogion Cymru gan lywio prosiectau teledu amryfal megis Land of Our Mothers – rhaglen am hanes merched yng Nghymru, wedi'i chyflwyno gan y Farwnes Tanni Grey Thompson – a Max Boyce's Big Birthday a ddenodd fwy o wylwyr nag unrhyw raglen o’i math erioed.
Gwobrau
Ynghyd â'i gwaith ym myd darlledu, mae ganddi yrfa’n awdur llawrydd. Mae wedi ysgrifennu i’r Guardian a’r Daily Telegraph, ac mae’n golofnydd i’r Western Mail ers 25 mlynedd. Er ei bod yn ysgrifennu'n fynych am amrywiaeth helaeth o bynciau, mae ei brwdfrydedd dros rygbi wedi ei galluogi i ennill gwobrau. Hi oedd y ferch gyntaf i ennill gwobr Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Cymru, a rhagorodd ar hynny trwy ennill gwobr y deyrnas gyfan – ddwywaith. At hynny, hi oedd y ferch gyntaf i ennill Newyddiadurwr y Flwyddyn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Mae hi wedi cyrraedd rownd derfynol Cymraes y Flwyddyn, ac ennill clod uchel yng nghategori Colofnydd y Flwyddyn Gwobrau Gwasg Ranbarthol y DG ddwywaith yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Llyfrau
Mae Carolyn wedi cyfrannu i sawl antholeg lenyddol a chwaraeon ac, yn 2012, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Wales Play in Red – am rygbi yng Nghymru yn y degawd diwethaf. (Daeth y teitl o’i phrofiad o fod yr unig ferch yng nghaban y wasg yn ystod gêmau rhyngwladol lle y byddai’r dynion yn tynnu ei choes trwy ddweud "Cofia... Cymru sy'n gwisgo coch!"). Cyhoeddodd ei hail lyfr, Welsh Rugby in the 1970s, yn 2015. Bydd ei llyfr nesaf am ferched o Gymru ym myd gwleidyddiaeth.
Ymrwymiadau eraill
Mae’n Llysgennad i Ganolfan Canser Felindre ac yn aelod o’r byrddau canlynol:
- Geiriadur Cenedlaethol Bywgraffiadau Cymru
- Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru
- Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru
- Tŷ Hapus, elusen sy’n helpu pobl gymharol ifanc a chanddynt Glefyd Alzheimer.
Y gamp mae Carolyn yn fwyaf balch ohoni, fodd bynnag, yw curo Gary Barlow pan oedd e’n 15 oed trwy ennill cystadleuaeth y BBC i ysgrifennu carol, A Song For Christmas, ym 1986! Nid bod hynny wedi atal Gary rhag llwyddo...