J. Barry Jones
Sefydlwyd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd gan J. Barry Jones (1938-2015) ym 1999, ar yr adeg pan ddaeth datganoli i Gymru. Mae coffâd yr Athro Michael Keating yn myfyrio ar gyfraniad yr academydd arloesol, y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn rhan falch o’i waddol.
Barry Jones oedd un o brif ddeallusion Cymru, ac roedd yn ysgolhaig nodedig ym meysydd gwleidyddiaeth a datganoli Cymru. Fe'i ganwyd ym 1938 yn Chwitffordd, gogledd Cymru, ac roedd yn un o ddau fab i Eileen a Frank Jones. Ar ôl cyfnod byr mewn ysgol breifat lle aeth pethau o chwith (ni fydd ei ffrindiau'n synnu), symudodd i ysgol gynradd Alltmelyd, lle'r oedd ei dad yn brifathro. Cwblhaodd ei astudiaethau uwchradd yn Ysgol Ramadeg y Rhyl, ac ar ôl hynny bu’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Taniwyd ei ddiddordeb hir mewn materion Canadaidd tra’r oedd yn astudio MA mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Alberta yn Edmonton, cyn iddo ddychwelyd i'r DG i addysgu yng Ngholeg y Santes Fair yn Twickenham. Cyn hir, roedd yn ôl yng Nghymru fel darlithydd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, a unwyd yn ddiweddarach gyda Phrifysgol Caerdydd. Ymddeolodd yn 2005 fel Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth.
Arloeswr astudiaethau datganoli
Roedd astudiaethau Barry ar wleidyddiaeth Cymru yn arloesol ar adeg pan nad oedd y pwnc yn bodoli, gyda chyfres o gyhoeddiadau o'r 1970au hyd at ei ymddeoliad. Roedd y rhain yn rhychwantu cyfnod tyngedfennol yng ngwleidyddiaeth Cymru, gan gynnwys yr adfywiad cenedlaetholgar, y brwydrau dros ddatganoli a gwleidyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl 1999. Roedd ei lyfr The Welsh Veto yn cynnig dadansoddiad pendant o golled glir datganoli yn refferendwm 1979. Ym 1999 cafodd ei enwi’n gyfarwyddwr cyntaf Canolfan Llywodraethiant Cymru, gan gyd-daro ag agoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfunodd hyn gyda diddordeb yng ngwleidyddiaeth y Blaid Lafur ac arsylwadau manwl ar gyfyng-gyngor Llafur mewn perthynas â datganoli. Ym 1985, cyd-awdurodd ef a minnau lyfr ar Labour and the British State, yn edrych ar agweddau amwys y Blaid Lafur at sefydliadau ac arferion y wladwriaeth. Cyfeirir ato o hyd, ond roedd yn nodweddiadol o'i feddwl aflonydd ei fod bob amser yn dweud y gallem fod wedi creu llyfr llawer gwell. Os cofiaf yn iawn, mewn bar rywle yng Nghymru y cawsom y syniad wedyn o edrych ar rôl tiriogaethau neu ranbarthau is-wladwriaethau o fewn y Cymunedau Ewropeaidd (yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn). Arweiniodd hyn at ddau lyfr a maes astudio academaidd cyfan ond, ac yntau’n realydd ar hyd ei oes, ni wnaeth Barry erioed dderbyn y syniad y byddai gwladwriaethau Ewropeaidd yn diflannu i mewn i Ewrop y rhanbarthau neu’r bobloedd.
Nid oedd Barry Jones y math o wyddonydd gwleidyddol sy'n ceisio sicrwydd mathemategol neu fodelau ymddygiad penderfynol; yn hytrach, safodd yn y traddodiad dyneiddiol. Roedd ganddo ddealltwriaeth ddofn o wleidyddiaeth fel ffordd unigryw o gynnal materion cyhoeddus, o bwysigrwydd syniadau a rôl unigolion, pleidiau a mudiadau. Roedd ei ddarllen yn eang ac yn ddwys ac nid oedd wedi'i gyfyngu i ffiniau disgyblaethol. Roedd yn sgwrsiwr bywiog, ac yn ddieithriad roedd ganddo rywbeth newydd, diddorol a deallusol heriol i'w ddweud.
Dealluswr cyhoeddus yn y traddodiad o ymreolaeth radical
Roedd Barry yn Gymro balch ond nid yn genedlaetholwr. Safodd, yn hytrach, yn y traddodiad o ymreolaeth radical, gan gyfuno gwleidyddiaeth y chwith ganol â hunanlywodraeth; nid tasg hawdd yng Nghymru yn y genhedlaeth ddiwethaf. Bu am flynyddoedd lawer yn aelod o'r Blaid Lafur ac roedd yn weithgar yn ymgyrchoedd datganoli'r 1970au hyd at y 1990au. Bu'n ysgrifennydd ar gyfer yr ymgyrch Ie yn refferendwm 1979 a helpodd i gadw'r mudiad yn fyw yn ystod cyfnod anodd y 1980au.
Fodd bynnag, nid oedd yn gryf ei bleidgarwch ac roedd galw mawr amdano fel sylwebydd ar faterion cyhoeddus ac, am gyfnod, cyflwynodd raglen materion cyfoes ar y teledu. Roedd gyrfa amgen fel darlledwr yn ei ddisgwyl ond ei brif ymrwymiad bob amser oedd y byd academaidd. Mae gan brifysgolion y dyddiau hyn obsesiwn â’r syniad o 'effaith', a welir yn aml mewn ffordd gul ac offeryniaethol. Disgrifir Barry Jones yn well fel un o’r deallusion cyhoeddus, rhywun a allai esbonio syniadau cymhleth mewn iaith leyg. Ei rôl oedd cwestiynu, herio ac egluro yn hytrach na meddwl am atebion parod i broblemau anodd.
Parhaodd Barry’n weithgar ar ôl ymddeol er bod salwch wedi cwtogi ar ei weithgareddau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wrth i'r Deyrnas Gyfunol ymrafael â chyfnod newydd o helbul cyfansoddiadol, bydd ei farn graff yn cael ei cholli’n fawr. Mae'n cael ei oroesi gan ei ddwy ferch, Sian a Ceri, a'i wyrion Caitlin, Cameron a Rhiannon.