Amdanom ni
Sefydlwyd y Ganolfan ym 1999, yn sgîl creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i sefydliadau datganoledig cysylltiedig, i ymgysylltu'n llawn â’r drefn lywodraethu newydd.
Rydyn ni’n uned ymchwil sy’n gweithredu gyda nawdd a chymorth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Sefydlwyd gan J. Barry Jones, yn ystod ein degawd cyntaf cynhalion ni nifer o ddigwyddiadau a chyfrannu at ymchwil i Gymru ddatganoledig. Yn 2009, cadarnhaodd y Brifysgol ei hymrwymiad i’r Ganolfan trwy benodi’r cyfarwyddwr presennol, Yr Athro Richard Wyn Jones, i adfywio a datblygu ei gwaith ymhellach.
Gyda chymorth ac ymrwymiad y Brifysgol a gweledigaeth yr Athro Wyn Jones, rydyn ni wedi tyfu’n uned sy’n cynnal amrywiaeth o ymchwil, achlysuron a phrosiectau ynghylch themâu gwleidyddol, cyfansoddiadol a pholisi yng Nghymru.
Rydyn ni’n cynorthwyo myfyrwyr doethuriaeth cofrestredig, yn cynnig cyrsiau amser llawn a rhan-amser i ôl-raddedigion ac yn croesawu myfyrwyr ac ysgolheigion o sefydliadau ledled y Deyrnas Gyfunol, Ewrop a’r tu hwnt yn aml.
Partneriaeth gyda Senedd Cymru
Yn sgîl cytundeb partneriaeth rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru a Senedd Cymru, rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd yn Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd.
Nod ein partneriaeth strategol gyda'r Senedd yw annog y cyhoedd i ymgysylltu mewn democratiaeth weithredol a chymryd rhan ynddi. Mae hyn hefyd yn cynnwys cynnig seminarau hyfforddi rheolaidd i Aelodau'r Senedd a staff y sefydliad.
Rydyn ni’n gweithredu gyda nawdd a chymorth yr Ysgol, er ein bod yn cydweithio ag ysgolheigion ledled y Brifysgol, hefyd.