Digwyddiad coffa a diolchgarwch
Mae ein digwyddiad coffa blynyddol yn diolch i'r rhai sydd wedi rhoi eu cyrff i addysg ac ymchwil biofeddygol.
Bob blwyddyn mae ein staff a'n myfyrwyr yn trefnu digwyddiad diolchgarwch a choffa blynyddol, gan wahodd perthnasau ein rhoddwyr i ddangos ein diolchgarwch am eu rhodd anhunanol. Rydym yn mynegi ein diolchgarwch trwy ddarnau o gelf a darlleniadau, gan rannu eiliad â theuluoedd y rhai sydd wedi cyfrannu gwerth aruthrol at ymdrechion addysgu ac ymchwil Canolfan Addysg Anatomegol Cymru.
Gwaith celf coffa
Mae ein myfyrwyr yn llunio gwaith celf, cerddi a llythyrau bob blwyddyn i ddiolch i'w rhoddwyr.