Ewch i’r prif gynnwys

Rhoddwyr a pherthnasau

Plac: Alive we thought beyond our lives to give our bodies as a book for you to read
Plac coffa yn y Ganolfan ar gyfer y rhai sydd wedi rhoi eu cyrff i addysg feddygol. Wedi'i greu gan Tom Phillips CBE a'i osod yn 2012.

Mae rhoi corff yn chwarae rhan bwysig mewn addysgu ac ymchwil.

Caiff ein gwaith yng Nghanolfan Addysg Anatomegol Cymru ei reoleiddio a’i fonitro gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA). Mae'n seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol bod unrhyw un sy'n dymuno rhoi ei gorff at ddefnydd gwyddonol yn cael ei hysbysu'n llawn o'r dibenion a'r prosesau ynghlwm wrth hynny cyn iddo gydsynio.

Pwy all gyfrannu

Mae’n rhaid i chi fod dros 17 oed i gofrestru i roi eich corff, ond nid oes uchafswm terfyn oedran. Gall unrhyw un dros 17 oed sydd yn ei iawn bwyll i roi cydsyniad gofrestru i fod yn rhoddwr.

Mae’r dalgylch penodol ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn cynnwys y codau post canlynol:  CF, LD, NP SA ac SY (siroedd SY Cymru).

Costau

Bydd Prifysgol Caerdydd yn talu am gladdiad neu amlosgiad yn Amlosgfa Thornhill. Byddwn hefyd yn talu'r costau cludo os ydych yn byw o fewn radiws o 50 milltir.

Efallai y bydd rhai costau i'r perthynas agosaf a allai gynnwys:

  • costau cludo os ydych yn byw ymhellach na 50 milltir
  • ffioedd trefnwyr angladdau lleol am gasglu a storio os yw'r person yn marw gartref neu mewn cartref gofal
  • y gost o brynu bedd (yn angenrheidiol os ydych am osod carreg fedd ar y bedd)
  • y gost i gludo gweddillion y corff wedi’i amlosgi

Rhoddwyr o dramor

Ni all Prifysgol Caerdydd dderbyn unrhyw roddwyr sy’n marw y tu allan i Brydain Fawr. Mae angen cyrff a roddir ar gyfer hyfforddiant ac addysg ledled y byd, felly efallai y byddwch am ystyried rhoi eich corff yn y wlad rydych yn byw ynddi ar hyn o bryd os ydych yn byw dramor.

Rhoddwyr â chyflyrau meddygol penodol

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn defnyddio cyrff dynol ar gyfer archwiliadau anatomegol gan fyfyrwyr ac ar gyfer cyrsiau hyfforddi llawfeddygol. Os yw'r rhoddwr wedi rhoi caniatâd, efallai y byddwn yn darparu samplau i fiofanc Prifysgol Caerdydd ar gyfer ymchwil i'w wneud ond nid ydym yn gwneud gwaith ymchwil i anhwylderau penodol ein hunain.

Post mortemau

Ymhlith ystyriaethau eraill, ni allwn dderbyn rhodd os yw'n ofynnol i'r rhoddwr gael archwiliad post-mortem, os yw wedi cael llawdriniaeth ddiweddar, yn cario haint trosglwyddadwy neu os oes ganddo gyflwr meddygol sy'n newid yr anatomeg normal yn sylweddol neu'n peryglu ein technegau cadwraeth.  Gallai achos y farwolaeth ei hun olygu nad yw'r corff yn addas i archwiliad anatomegol, oherwydd mai pwrpas archwiliad fel hwn yw astudio adeiledd normal y corff. Gweler Tudalen 4 ein pecyn gwybodaeth i gael mwy o wybodaeth.

Information pack for donors 2022

This information pack contains information for donors, including consent forms and guidance on procedures.

Cofrestr rhoi organau

Yn anffodus, ni allwn dderbyn rhoddwr os yw ei organau wedi'u tynnu i'w trawsblannu (ac eithrio'r cornbilennau). Fodd bynnag, mae'n dderbyniol i chi roi cydsyniad ar gyfer archwiliad anatomegol os ydych wedi'ch cofrestru i roi organau.  Rhoddir blaenoriaeth i roi organau fel arfer, ond os nad yw eich organau'n cael eu hystyried yn addas i'w trawsblannu, gallai eich corff fod yn addas i'w roi.

Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl bobl sy’n gadael eu cyrff i ni ond, gwaetha'r modd, nid yw hi'n bosibl gwarantu y caiff rhodd ei derbyn.  Dylai rhoddwyr bob amser sicrhau bod ganddynt gynllun angladd amgen os na dderbynnir eu corff fel rhodd.
Os nad ydym yn gallu derbyn eich rhodd, byddwn yn rhoi gwybod i’ch perthynas agosaf neu’ch ysgutor cyn gynted ag y bo modd, a’r person hwnnw fydd yn gyfrifol am drefnu eich claddu neu’ch amlosgi. Yn y fath achos, ni fyddwn yn gallu gwneud unrhyw gyfraniad ariannol tuag at gost angladd.

Sut i gydsynio

Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi eich cydsyniad ysgrifenedig i roi eich corff.  Ffurflen gydsynio yw’r ffordd hawsaf i gydsynio i roi eich corff – mae hynny’n wir i’r rhoddwr ar yr adeg rhoi cydsyniad ac i’r perthnasau agosaf neu’r ysgutor ar ôl i’r rhoddwr farw.  Sicrhewch fod un copi gwreiddiol o’r ffurflen gydsynio yn cael ei dychwelyd i Brifysgol Caerdydd. Dylai’r rhoddwr gadw’r copi arall.  Caiff ewyllys hefyd ei hystyried yn gydsyniad dilys os yw geiriad eich bwriad yn glir.
Ni allwch roi cydsyniad ar ran rhywun i roi ei gorff/chorff, hyd yn oed os ydych wedi cael ‘pŵer atwrnai’?
Rhaid i’r rhoddwr roi cydsyniad, felly dim ond ffurflenni cydsynio y mae’r rhoddwr ei hun wedi’u llofnodi a’u dyddio fyddai’n cael eu hystyried yn ddilys. Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r unigolyn ei hun wneud penderfyniad cadarnhaol cyn ei farwolaeth.

Caniatâd a roddir i brifysgol arall

Os ydych wedi cofrestru i roi eich corff i brifysgol wahanol ac wedi symud o fewn dalgylch Prifysgol Caerdydd, efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen ganiatâd newydd. Er y byddai ffurflen gydsynio a lenwir ar gyfer sefydliad arall fel arfer yn dderbyniol i ni, gall y manylion sy'n ofynnol ar y ffurflen fod yn wahanol, felly byddem yn gwerthfawrogi pe gallech chi lenwi un o'n ffurflenni ni.

Penderfynu rhoi eich corff

Os ydych yn penderfynu rhoi eich corff, mae’n bwysig trafod eich dymuniadau â’ch perthnasau agosaf fel eu bod yn gallu cyflawni eich dymuniadau gyda'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r hyn sydd dan sylw.
Dylech drafod eich dymuniadau â’ch teulu a/neu pwy bynnag sy’n debygol o ymdrin â’ch busnes ar ôl i chi farw.  Gall hefyd fod yn ddefnyddiol trafod eich dymuniadau â’ch meddyg teulu a’ch cyfreithiwr os oes gennych un.
Nid yw’n ofynnol i chi roi gwybod i’ch meddyg am eich dymuniadau. Fodd bynnag, byddai'n ddoeth yn yr hirdymor roi gwybod iddo eich bod ar ein rhestr rhoddwyr cyrff. Ar ôl i ddarpar roddwr farw, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â’i feddyg i bennu a yw’n addas yn feddygol at ein dibenion ni. Mae’n bosibl y bydd rhoi gwybod i’ch meddyg am eich dymuniadau ymlaen llaw yn hwyluso’r broses hon.

Gwneud ewyllys

Nid oes unrhyw rwymedigaeth i nodi eich dymuniadau yn eich ewyllys, ond rydym yn eich cynghori i hysbysu eich cyfreithiwr o'ch dymuniadau os ydyw i weithredu fel eich ysgutor. Gall achosi problemau os nad yw geiriad ewyllys yn ddigon penodol at ein dibenion, felly er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ystyried eich corff yn rhodd, ein cyngor yw llenwi ein ffurflen gydsyni0. Gallwch wneud copi o'r ffurflen hon i'w roi i'ch cyfreithiwr os dymunwch, ond anfonwch y ffurflen wreiddiol atom ni.

Gwneud cynlluniau amgen ar gyfer angladd

Oherwydd nad oes modd gwarantu y caiff y corff ei dderbyn, rydym yn annog yr holl ddarpar roddwyr i baratoi opsiwn arall. Bydd rhai cwmnïau’n cynnig cynllun angladd ad-daladwy, felly bydd yn ad-dalu’r arian i’r berthynas agosaf neu’r ystâd os na dderbynnir eich corff yn rhodd. Felly, rydym yn awgrymu eich bod yn trafod hyn â’ch trefnydd angladdau i wneud yn siŵr ei fod yn ymwybodol eich bod wedi cofrestru i roi eich corff, ac mai’r cynllun angladd hwn fyddai eich ail opsiwn os na chaiff eich corff ei dderbyn yn rhodd.

Cludo a chasglu'r corff

Mae hyn yn dibynnu ar amgylchiadau eich marwolaeth. Os byddwch yn marw mewn ysbyty, ni fydd angen defnyddio gwasanaethau trefnydd angladdau ar unwaith.
Fodd bynnag, os byddwch yn marw gartref neu mewn cartref gofal, mae’n bwysig bod eich corff yn cael ei gludo i le oer addas o fewn 12 awr. Os felly, byddai’n briodol cysylltu â threfnydd angladdau lleol i gasglu a storio eich corff. Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau, efallai bydd modd i’n trefnwyr angladdau dan gontract gasglu corff y person sydd wedi marw. Os ydych yn byw ymhellach na 50 milltir, efallai y gofynnir i'ch perthynas agosaf/ysgutor drefnu a thalu cost cludo i Brifysgol Caerdydd trwy drefnydd angladdau lleol.

Dychwelyd y corff

Ar ôl i ni orffen gyda'r corff, byddwn yn cysylltu â'ch perthynas agosaf neu’ch ysgutor i'w gwneud yn ymwybodol o drefniadau angladd.

Bydd y corff naill ai'n cael ei amlosgi neu ei gladdu gan ddibynnu ar y dewisiadau a nodwyd gan eich perthynas agosaf neu’ch ysgutor, a gall y person hwnnw fynd i’r gwasanaeth hwn os dymuna. Os caiff y corff ei amlosgi, gall y perthynas agosaf naill ai gasglu gweddillion y corff wedi’i amlosgi, neu eu cludo i drefnwyr angladdau eraill neu eu gwasgaru ar dir yr amlosgfa.
Fel arall, gall y perthynas agosaf neu'r ysgutor wneud ei drefniadau preifat ei hun os yw’n dymuno Rydym yn hapus i ymgysylltu â threfnwr angladdau o’i ddewis i drefnu casglu corff y person sydd wedi marw. Ni fydd y Brifysgol yn talu am gostau unrhyw drefniadau angladd preifat.

Gweithdrefn yn dilyn archwiliad anatomegol

Unwaith y bydd yr holl astudiaethau ar yr un ymadawedig wedi'u cwblhau, byddwn yn cysylltu â'r perthynas agosaf neu'r ysgutor i roi gwybod iddynt am drefniadau’r angladd.

Bydd yr ymadawedig naill ai'n cael ei amlosgi neu ei gladdu gan ddibynnu ar y dewisiadau a nodir gan y berthynas agosaf neu’r ysgutor, a gall y person hwnnw fynd i’r gwasanaeth hwn os dymuna. Os caiff y corff ei amlosgi, gall y perthynas agosaf naill ai gasglu gweddillion y corff wedi’i amlosgi, neu eu cludo i drefnwyr angladdau eraill neu eu gwasgaru ar dir yr amlosgfa.

Fel arall, gall y perthynas agosaf neu'r ysgutor wneud ei drefniadau preifat ei hun os yw’n dymuno. Rydym yn hapus i ymgysylltu â threfnwr angladdau o’i ddewis i drefnu casglu corff y person sydd wedi marw. Ni fydd y Brifysgol yn talu am gostau unrhyw drefniadau angladd preifat.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses, cysylltwch â'n Tîm Cymynroddion.

Bequest Team

Rhagor o wybodaeth am fathau eraill o roddion:

Diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn gyfrifol am ofalu am ddata personol ein rhoddwyr a’i brosesu. Byddwn yn prosesu’r data hwn fel rhan o dasg gyhoeddus y Brifysgol i ddarparu cyfleusterau dysgu, addysgu ac ymchwil, ac fel rhan o’n trwydded gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut yr ydym yn trin eich data, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn inforequest@cardiff.ac.uk.

Cymorth profedigaeth

Os ydych yn ei chael hi’n anodd ymdopi â marwolaeth rhywun sy’n annwyl i chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael i chi yn ystod y cyfnod hwn. Efallai y cewch gymorth trwy aelodau’r teulu, ffrindiau a’ch meddyg teulu.

Cymorth a chefnogaeth arall:

  • Mae’r Bereavement Advice Centre yn cynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol ynglŷn â‘r llu o faterion a gweithdrefnau sy'n ein hwynebu ar ôl i rywun agos farw.
  • Mae Cruse yn cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth dan arweiniad gwirfoddolwyr i'r rhai sydd mewn profedigaeth. Maen nhw’n cynnig cymorth dros y ffôn, trwy e-bost ac ar y wefan, ac mae ganddynt adnoddau a gwasanaethau penodol i blant a phobl ifanc.