BSc Gwyddorau Biofeddygol (Anatomeg)
Mae ein gradd BSc Gwyddorau Biofeddygol (Anatomeg) yn cyfuno dulliau traddodiadol â thechnegau digidol modern i ddarparu rhaglen gradd ysgogol, ryngweithiol a chyfoes i chi.
Fel myfyriwr Anatomeg yng Nghaerdydd, byddwch yn astudio anatomeg ddynol ymarferol ac uwch ynghyd â gwyddoniaeth ddatblygiadol a chyhyrysgerbydol, bioleg bôn-gelloedd a pheirianneg meinweoedd.
Bydd hefyd gennych gyfle i ddewis modiwlau biowyddorau ychwanegol, gan eich galluogi i deilwra eich gradd a’i gwneud yn addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol.
Profiad ymarferol
Ni yw'r unig Brifysgol yng Nghymru (ac un o blith nifer bach yn unig yn y DU) i ganiatáu i'n myfyrwyr Anatomeg ymgymryd â dyrannu. Gwneir y dyrannu hyn dan arweiniad arbenigwyr anatomegol ac addysgol medrus, ac mae’n cynnig cyfle prin i chi fagu sgiliau llawfeddygol ymarferol.
Opsiynau gyrfa
Gyda'u gwybodaeth fanwl am y corff dynol a hyfforddiant gwyddonol, mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd llwyddiannus a gwerth chweil – ym maes gofal iechyd, fel meddygon, deintyddion, nyrsys, ffisiotherapyddion a pharafeddygon, yn ogystal â mewn amrywiol ddisgyblaethau biofeddygol, anthropolegol ac ymchwil fforensig.
Mae llawer o'n graddedigion hefyd wedi mynd ymlaen i ddod yn arweinwyr ym maes addysg a hyfforddiant anatomegol.
Gwneud cais
I astudio Anatomeg ym Mhrifysgol Caerdydd bydd angen i chi wneud cais am ein gradd BSc Gwyddorau Biofeddygol.
Ar ôl cofrestru ar y cwrs, gallwch wedyn ddewis y modiwlau priodol i raddio gyda gradd mewn Gwyddorau Biofeddygol (Anatomeg).