Cyrsiau

Rydym wrth wraidd addysg anatomegol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dysgu fel rhan o'r cyrsiau yn Ysgol y Biowyddorau yn ogystal â chynnal cyrsiau allanol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf a'n staff profiadol yn darparu'r amgylchedd delfrydol i gael profiad ymarferol.
"Roeddwn i’n dwlu astudio anatomeg yng Nghaerdydd. Roedd meddwl mawr o'r tiwtorialau cyn pob sesiwn ymarferol. Gwnaethant ein paratoi ar gyfer y sesiwn ymarferol, yn ogystal â chaniatáu i ni gyfuno ein dysgu hunangyfeiriedig a'i ddefnyddio mewn senarios clinigol."