Ymchwil
Rydym yn darparu'r cyfleusterau i feithrin amgylchedd addysgu rhagorol wrth gefnogi ymchwil biofeddygol flaengar.
Mae Canolfan Addysg Anatomegol Cymru wedi'i lleoli yn Ysgol y Biowyddorau, sydd ag enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth ymchwil.
Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, mae Ysgol y Biowyddorau yn y 13eg safle yn y DU, gyda 60% o'n gwaith ymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol' am ei effaith o ran ehangder a’i harwyddocâd. Mae ein canolfan yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso ymchwil sy'n arwain y byd sy'n ymwneud ag anhwylderau a gweithrediadau'r corff dynol.
Caiff yr holl brosiectau ymchwil eu cymeradwyo a’u hwyluso trwy Fanc Bio Prifysgol Caerdydd i sicrhau bod y deunydd yn cael ei ddefnyddio’n briodol ac yn foesegol.
Allgymorth
Yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer addysg ac ymchwil anatomegol ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn frwd am annog y genhedlaeth nesaf. Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo gwyddoniaeth ac addysg wyddoniaeth ledled y byd.
Mae ein rhaglenni allgymorth cenedlaethol yn cynnwys digwyddiadau ennyn diddordeb ym maes gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd sy’n dweud wrth fyfyrwyr am gyfraniadau pwysig y gwyddorau anatomegol ym meysydd meddygaeth a bioleg ddynol.
Fel rhan o'n rhaglen allgymorth ryngwladol, mae gan Ganolfan Addysg Anatomegol Cymru gysylltiadau a chydweithrediadau addysgol â phrifysgolion yn Sbaen, yr Eidal a Hong Kong.