Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Female student working on skeleton

Mae Canolfan Addysg Anatomegol Cymru, sydd yn Ysgol y Biowyddorau, yn un o'r ychydig ganolfannau yn y DU, a'r unig ganolfan yng Nghymru, sy'n cynnig dyrannu celaneddol fel cyfrwng dysgu i fyfyrwyr gwyddoniaeth, meddygol a deintyddol israddedig.

Mae'r Ganolfan yn cynnig amgylchedd cyfoethog ar gyfer dysgu anatomeg gan ddefnyddio dull cyfunol o ddyrannu celaneddol, tiwtorialau rhyngweithiol a dysgu ar-lein. Mae'r dull hwn yn rhoi profiad uniongyrchol cymhwysol i fyfyrwyr o adeiledd a gweithrediad cymhleth y corff dynol.

Yn ogystal â thua 2000 o fyfyrwyr israddedig o gyrsiau amrywiol, mae'r ganolfan yn cynnal digwyddiadau datblygiad proffesiynol parhaus yn rheolaidd ar gyfer ôl-raddedigion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gan gynnwys llawfeddygon, anesthesiolegwyr a ffisiotherapyddion.