Ymchwil
Nod ein hymchwil, sydd o fri rhyngwladol, yw creu newid cadarnhaol i bobl awtistig drwy ddylanwadu ar ymarfer, byd polisi ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Mae ein ffordd o weithio yn cwmpasu niwroamrywiaeth ac yn trin awtistiaeth yn fath o niwrowahaniaeth. Rydyn ni’n ceisio deall profiadau pobl awtistig a dod o hyd i’r meysydd a allai fod o fudd yn hyn o beth. Mae ein gwaith hefyd yn ystyried cyflyrau a nodweddion niwrowahanol a all groestorri ag awtistiaeth, yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl sy'n digwydd ar yr un pryd.
Rydyn ni’n ymdrechu i wneud ein hymchwil mewn ffordd gynhwysol, gan gynnwys deall profiadau'r rheini nad ydyn nhw’n siarad neu sydd ag anabledd deallusol, yn ogystal ag ymestyn at y bobl neu’r cymunedau hynny sydd heb eu cynrychioli'n dda mewn ymchwil ar awtistiaeth.
Yn sail i'n gwaith mae’r ymgysylltu gan y gymuned awtistig, a chaiff y rhain gysylltu â ni yng Nghymuned WARC.
Rhennir ein hymchwil yn dair thema:
- disgrifio nodweddion y profiad awtistig
- deall prosesau biolegol a seicolegol
- datblygu a gwella cymorth
Disgrifio nodweddion y profiad awtistig
Cynhaliwn sbectrwm eang o ymchwil sy'n ceisio disgrifio nodweddion a deall y profiad awtistig.
Mae hyn yn cynnwys:
- profiadau sy’n cynnwys cyfathrebu cymdeithasol a mathau o ymddygiad cyfyngedig sy’n cael eu hailadrodd
- gwerth ystafelloedd synhwyraidd i bobl awtistig
- profiadau emosiwn, iechyd meddwl a lles
- sut i wella'r profiad o gymryd rhan mewn ymchwil.
Mae'r ymchwil yn cynnwys datblygu holiaduron, fel yr Holiadur Ymddygiadau Ailadroddus-3. Yn y rhai, caiff pobl awtistig, neu bobl sy'n eu hadnabod yn dda, roi gwybod am brofiadau awtistig. Rydyn ni hefyd yn defnyddio ystod o holiaduron a thechnegau arsylwi a chyfweld sy’n bodoli eisoes i ddeall y profiad awtistig.
Deall prosesau biolegol a seicolegol
Mae gennym ddiddordeb yn y ffyrdd y mae pobl awtistig yn meddwl am y byd a’i ddeall.
Ymhlith ein meysydd ffocws mae deall mwy am wahaniaethau a dewisiadau cyfathrebu cymdeithasol, gan ymchwilio i’r gwahaniaethau ynghlwm wrth brosesu emosiwn yn ogystal â dal gwahaniaethau synhwyraidd a chanfyddiadol.
Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys:
- tasgau cyfrifiadurol
- ymchwil arsylwadol
- patrymau olrhain symudiadau llygaid
- delweddu'r ymennydd
- gweithio gyda robotiaid dynolffurf.
Datblygu a gwella cymorth
Gwnawn ymchwil sy'n dod o hyd i anghenion cefnogi pobl awtistig, gan gwmpasu safbwyntiau pobl awtistig, aelodau o'u teuluoedd ac ymarferwyr.
Dan arweiniad yr ymchwil sylfaenol hon, rydyn ni’n gallu datblygu, dilysu a gwerthuso adnoddau sy'n cefnogi pobl awtistig, gan alluogi ein hymchwil i gael effaith yn y byd go iawn.
Mae ein hadnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys The Birthday Party, ffilm a grëwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ymarferwyr a phobl awtistig sy'n helpu gweithwyr proffesiynol yn y rheng flaen i adnabod arwyddion awtistiaeth mewn plant.
Defnyddir ein Holiadur ar Ymddygiadau Ailadroddus-3 mewn ymarfer clinigol i helpu ymarferwyr i ddeall proffil y mathau o ymddygiad cyfyngedig sy’n cael eu hailadrodd yn eu cleientiaid.
Hefyd, rydyn ni wedi creu Canllaw ar Ystafelloedd Synhwyraidd ar y cyd ag ymarferwyr addysgol ac aelodau o'r gymuned awtistig. Mae’r canllaw yn helpu ymarferwyr i ddefnyddio ystafelloedd synhwyraidd gyda phlant awtistig.
Mae Cymuned WARC yn gronfa ddata ar-lein ar gyfer pobl awtistig, ac aelodau agos eu teulu, sydd â diddordeb mewn cefnogi ein hymchwil a’n gweithgareddau cymunedol.