Cymuned
Lansiodd Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru Gymuned CYAC er mwyn i’r gymuned awtistig allu cymryd rhan yn ein hymchwil.
Mae Cymuned CYAC yn gronfa ddata ar-lein ar gyfer pobl awtistig ac aelodau agos o’u teuluoedd sydd â diddordeb mewn cefnogi ein hymchwil a’n gweithgareddau cymunedol. Cafodd ei datblygu gan ymgynghori â phobl awtistig ac aelodau o’u teuluoedd.
Pan fyddwch chi’n ymuno â Chymuned CYAC, gallwch chi ddewis cael gwybod gennyn ni am y canlynol:
- cymryd rhan yn ein hastudiaethau
- rhoi cyngor i ni ar ein hymchwil a’n gweithgareddau cymunedol
- ein gweithgareddau
- ein digwyddiadau