Amdanon ni
Cafodd Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ei lansio yn 2010, a hi oedd y ganolfan genedlaethol gyntaf yn y DU i ymchwilio i awtistiaeth.
Grŵp o ymchwilwyr awtistig a heb fod yn awtistig sydd wedi ymrwymo i wneud ymchwil o safon yw Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC). Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl awtistig, eu teuluoedd, a'r rheini sy'n eu cefnogi.
Mae ein rhaglen ymchwil yn un eang. Mae rhywfaint o'n gwaith yn canolbwyntio ar bennu nodweddion y profiad awtistig. Rydyn ni hefyd yn cynnal ymchwil sy'n edrych ar y prosesau seicolegol a biolegol ynghlwm wrth brofiadau awtistig. Maes ffocws pwysig arall yw ymchwil sy'n datblygu ac yn gwella cymorth i bobl awtistig.
Mae ein hymchwil yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i bobl awtistig. Mae'n bwysig inni ein bod yn gweithio gyda'r gymuned awtistig ac y gall pobl awtistig gyfrannu i’n hymchwil mewn ffyrdd ystyrlon. Estynnwn groeso i bobl awtistig gymryd rhan yn WARC drwy Gymuned WARC y Brifysgol.
Yn ogystal â'r gymuned awtistig, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a llawer o bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Ar ben hynny, rydyn ni wedi creu cysylltiadau pwysig â gwasanaethau awtistiaeth clinigol ac ysgolion, ac mae’r rhain yn ein cefnogi i wneud ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth.
Gyda'n gilydd, mae ein hymchwil gynhwysfawr yn cael effaith ar fyd polisi, ymarfer ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o awtistiaeth.
Ein hanes
Lansiwyd WARC yn 2010 gan y cyfarwyddwr sefydlol, yr Athro Sue Leekam. Dyma oedd y ganolfan genedlaethol gyntaf yn y DU i ymchwilio i awtistiaeth. Mae Dr Catherine Jones wedi arwain y Ganolfan ers Ebrill 2019.
Cewch ddod o hyd inni yn yr Ysgol Seicoleg ac rydyn ni’n rhan o Ganolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS).
Yn 2020, dathlodd WARC ei phen-blwydd yn ddeg oed.
Y ffordd orau o gyrchu ein newyddion diweddaraf yw ein dilyn ar Facebook neu X.
Ein harianwyr
Prosiect unigryw ar y cyd yw’r Ganolfan rhwngAwtistiaeth Cymru acAutistica, yr Ysgol Seicoleg a Llywodraeth Cymru. Cafodd y Ganolfan ei sefydlu diolch i roddion hael gan y sefydliadau hyn yn ogystal â rhoddion gan:
- Autism Initiatives
- Cronfa Elusennol Baily Thomas
- Sefydliad Waterloo
- Sefydliad Jane Hodge
- Research Autism
- Freemasons Grand Charity
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n cyllidwyr sefydlu am eu rôl wrth greu WARC.
Ers y cymorth cydweithredol cychwynnol hwn, rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i lawer o arianwyr eraill a fu’n cefnogi ein hymchwilwyr wrth iddyn nhw ddilyn eu prosiectau ymchwil. Ymhlith y cyllidwyr hyn y mae:
- Ymddiriedaeth Leverhulme
- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Sefydliad Waterloo
- Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
- Y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC)
- rhoddwyr personol sydd wedi cyfrannu'n hael iawn i'r Ganolfan.
Rydym yn cynnig addysgu o’r radd flaenaf, i israddedigion ac ôl-raddedigion, sydd wedi’i lywio gan ein hymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.