Wifi i ymwelwyr
Ymwelwyr
Os ydych chi'n ymweld â Phrifysgol Caerdydd ac angen mynediad i wifi, efallai y byddwch chi’n gallu cysylltu â'r gwasanaeth di-wifr i ymwelwyr sydd ar gael drwy CU-Wireless, fydd yn ymddangos ar y rhestr o rwydweithiau sydd ar gael i chi.
Gallwn roi mynediad i chi os ydych yn:
- gynrychiolydd sy'n dod i gynadleddau a drefnir gan staff neu fyfyrwyr, yn unol â'n cylch gwaith a ariennir yn gyhoeddus
- aelod o sefydliadau masnachol a chyrff cyhoeddus, sydd wedi eich gwahodd gan y brifysgol
- contractwr sy’n gweithio ar y campws ar ran y Brifysol
Ni allwn roi mynediad i'r bobl ganlynol ar hyn o bryd:
- cynfyfyrwyr
- darpar fyfyrwyr (cânt fynediad os byddant yn cofrestru'n gynnar)
- defnyddwyr sy'n galw heibio
- cynrychiolwyr mewn cynadleddau a drefnir yn allanol, sydd heb unrhyw gysylltiad â'n cylch gwaith a ariennir yn gyhoeddus
Gwneud cais am gyfrif gwestai
Mae cwponau ar gyfer y gwasanaeth di-wifr i westeion ar gael gan eich cyswllt prifysgol.
Gellir creu cwponau i'w defnyddio am hyd at 14 diwrnod, gan ddibynnu am ba hyd yr ydych yn ymweld â'r Brifysgol.
Rhaid i holl ddefnyddwyr y rhwydwaith di-wifr i ymwelwyr gydymffurfio â'r telerau defnyddio.
- cewch fynediad at dudalennau gwe cyhoeddus ac ebost ar y we, ond mae'n bosibl na fydd gwasanaethau eraill yn gweithio
- bydd Prifysgol Caerdydd yn monitro sut caiff y cyfrifon hyn eu defnyddio
- ni fydd y cyfrifon dros dro hyn yn caniatáu i chi fewngofnodi i orsaf waith a gaiff ei rheoli gan y brifysgol
Mynediad i wifi ar ddiwrnodau agored
Mae Prifysgol Caerdydd yn gampws di-wifr ac mae croeso i chi ddefnyddio ein rhwydwaith di-wifr yn rhad ac am ddim pan ddewch i ddiwrnod agored.
Mynediad i Wi-Fi os ydych chi'n dod ar Ddiwrnod Agored:
- dewiswch y rhwydwaith 'CU-OpenDay' ar eich dyfais a defnyddio porwr rhyngrwyd i gofrestru eich manylion
- cyn bo hir byddwch cael ebost neu neges destun SMS sy'n cynnwys enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw
- mewngofnodwch i ddechrau defnyddio wifi pan fyddwch ar y campws
- gall dyfeisiau ychwanegol fewngofnodi gyda'r un enw defnyddiwr/cyfrinair trwy ddewis 'Already have an account’ ar y dudalen gofrestru
Mae canllawiau ar gyfer cael mynediad i wifi ar gael yn ystod y Diwrnod Agored ar y stondin Llyfrgelloedd a Chyfleusterau TG.