Parcio ar gyfer Ymwelwyr
Rydym yn annog aelodau o gymuned y brifysgol (gan gynnwys ymwelwyr) i deithio i'r brifysgol gan ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw hynny'n bosibl bob amser, ac y bydd angen i rai ymwelwyr deithio i'r campws mewn cerbydau modur.
Rydym yn annog defnyddio cerbydau trydan neu hybrid at y diben hwn lle bynnag y bo modd. Mae ein meysydd parcio yn cael eu rheoli gan dechnoleg camerâu ANPR a/neu batrolio ar droed.
Nid yw parcio i ymwelwyr ar gael yn ystod Diwrnodau Agored na digwyddiadau mawr eraill ar y campws.
Cilfachau parcio talu wrth ddefnyddio y gellir eu cadw ymlaen llaw
Mae parcio PAYG y gellir ei archebu ymlaen llaw ar gael i'w ddefnyddio gan ymwelwyr (yn ogystal â staff a chontractwyr) rhwng 07:00-00:00 (hanner nos) o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.
Rhaid cadw cilfachau PAYG cyn cyrraedd drwy ddefnyddio 'RingGo' drwy’r ap neu’r wefan.
Lleolir cilfachau PAYG fel a ganlyn:
Maes parcio | Cod post | Lleoedd sydd ar gael |
---|---|---|
Bute a Morgannwg | CF10 3NB | 12 |
Rhodfa Colum | CF10 3EU | 19 |
Chanolfan Gynadledda | CF23 5YB | 24 |
Heath Park West | CF14 4US | 19 |
Heol Maendy | CF24 3AT | 32 |
Tŷ McKenzie | CF24 0DE | 9 |
Adeiladau’r Frenhines | CF24 3AA | 7 |
Redwood | CF10 3NB | 10 |
Senghennydd | CF24 4AG | 12 |
Talybont (prif faes parcio) 4 awr o barcio am ddim i aelodau'r clwb chwaraeon | CF14 3AT | 100+ |
Neuadd y Brifysgol | CF23 5YB | 4 |
Er mwyn atal camddefnyddio, dim ond ar Fewnrwyd y Brifysgol y ceir y codau lleoliadau RingGo sydd eu hangen i gadw cilfachau PAYG ymlaen llaw a byddant yn newid yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Bydd y sawl sy’n eich croesawu/cyswllt â'r Brifysgol yn rhoi'r cod (codau) lleoliad i chi eu defnyddio i gadw cilfach.
Nid y codau hyn yw'r codau sy'n cael eu harddangos ar arwyddion meysydd parcio, Parcio â Chodi Tâl ar y Cyhoedd y tu allan i oriau.
Cadwch eich cilfach mewn da bryd. Mae nifer y cilfachau yn gyfyngedig ac mae galw mawr amdanynt.
Ffioedd
- Hanner diwrnod (4.5 awr o'r amser archebu a ddewiswyd gennych) = £3
- Diwrnod llawn (hyd at hanner nos) = £6 (Ceir arwydd uwchben ym mhob maes parcio arall)
Parciwch mewn bae coch wedi'i arwyddo'n glir â:
- 'Wedi’i gadw ymlaen llaw ar gyfer staff yn unig' (Heol Maendy yn Unig), neu
- 'Cilfachau parcio y tu allan i oriau gwaith – cilfachau cadw ymlaen llawn, a Parcio â Chodi Tâl ar y Cyhoedd'
Parcio cyhoeddus y tu allan i oriau brig
Mae meysydd parcio penodol ar gael i'w defnyddio gan ymwelwyr/y cyhoedd yn ystod oriau nad ydynt yn rhai brig (16:00-07:00) o ddydd Llun i ddydd Gwener a thwy'r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
Mae'r meysydd parcio canlynol ar gael at y diben hwn:
Maes parcio | Cod post | Lleoedd sydd ar gael |
---|---|---|
Bute a Morgannwg | CF10 3NB | 175 |
Rhodfa Colum | CF10 3EU | 223 |
Adeiladau’r Frenhines | CF24 3AA | 71 |
Senghennydd | CF24 4AG | 35 |
Tŷ McKenzie | CF24 0DE | 48 |
Ar y byrddau tariff yn yr ardal barcio lle ceir parcio cyhoeddus ceir cod lleoliad RingGo at ddefnydd y cyhoedd. Gall defnyddwyr dalu am barcio gan ddefnyddio'r ap RingGo, gwefan neu wasanaeth talu trwy ffôn RingGo.
Parcio hygyrch
Mae'n ofynnol i ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas roi eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Trafnidiaeth a Pharcio drwy ebostio carparking@caerdydd.ac.uk heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.
Mae'r sawl sydd â Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu fan parcio cyffredinol, yn rhad ac am ddim, yn amodol ar ddangos Bathodyn Glas dilys yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd.
Mae mannau parcio hygyrch wedi’u marcio’n felyn ac wedi’u harwyddo'n glir â 'Parcio Bathodyn glas yn unig'
Codi/gollwng
Mae cilfachau a pharthau casglu/gollwng ar gael ledled y campws. Gall unrhyw un ddefnyddio'r rhain am arhosiad o hyd at 30 munud.
Ni chodir tâl am ddefnyddio’r rhain.
Mae cilfachau a pharthau codi/gollwng wedi’u marcio’n oren a cheir arwyddion clir 'codi a gollwng yn unig' wrthynt.