Ap Ymweld â Phrifysgol Caerdydd

Eich cydymaith hanfodol wrth ymweld â'n campws ar gyfer Diwrnodau Agored neu daith hunan-dywys.
Mae’r ap yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i gynllunio eich diwrnod.
Galla:
- ymgyfarwyddo ag amserlen y dydd ac arbed y sesiynau rydych wir eisiau mynd iddynt
- defnyddio'r map rhyngweithiol i archwilio ein hadeiladau a chynllunio eich llwybr o amgylch y campws
- edrych ar y wybodaeth i ymwelwyr am awgrymiadau defnyddiol ar fynd o gwmpas y campws
- archwiliwch ein campws a dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am ein hadeiladau a'n mannau addysgu
Lawrlwythwch yr ap Ymweld â Phrifysgol Caerdydd
Dilynwch y camau isod i ddechrau cynllunio eich ymweliad â Phrifysgol Caerdydd.
Cam 1: Chwiliwch am: ‘Ymweld â Phrifysgol Caerdydd’
Cam 2: Cadwch eich hoff gyflwyniadau a gweithgareddau
Cam 3: Crëwch eich amserlen eich hun
Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn lawrlwytho’r ap, yn sicrhau bod eich dyfais wedi’i gwefru’n llawn ac yn rhedeg y feddalwedd ddiweddaraf cyn i chi gychwyn am Gaerdydd fel eich bod i gyd yn barod i fynd pan fyddwch chi’n cyrraedd ein campws.

