Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd yn ystod eich ymweliad
Yn ystod eich ymweliad â ni, os bydd gennych chi rywfaint o amser yn rhydd, beth am grwydro’r ddinas, lle dewch o hyd i lu o fannau gwyrdd hardd, canolfannau siopa modern, marchnadoedd dan do a chastell y ddinas o fewn tafliad carreg.
Mae’n cymryd tua deng munud i gerdded i’r ddinas o gampws Parc Cathays. Mae popeth o fewn cyrraedd yng Nghaerdydd, felly mae’n hawdd mynd o gwmpas a chrwydro.
Mae gan Gaerdydd un o’r canolfannau siopa mwyaf, sef Canolfan Dewi Sant 1 a 2, arcedau Edwardaidd a Fictoraidd hardd, a Marchnad Caerdydd, mewn adeilad Fictoraidd yng nghanol y ddinas. Mae hefyd mannau gwych i fwyta o fewn tafliad carreg, gan gynnwys Pettigrew Tea Rooms (ystafelloedd te Cymraeg traddodiadol ym Mharc Bute), Wahaca (yr Aes, Canol y Ddinas), The Potted Pig (y Stryd Fawr, Canol y Ddinas) a llawer mwy.
Fel arall, gallwch fynd ar daith o gwmpas y ddinas, lle cewch weld adeiladau dinesig ysblennydd Caerdydd (mae’r Brifysgol yn rhan allweddol ohonynt), Castell Caerdydd a’r Stadiwm Principality eiconig (Stadiwm y Mileniwm gynt).
Neu ewch i weld golygfeydd Caerdydd ac ymlacio ar Daith mewn Cwch o gwmpas Bae Caerdydd. Mae’r bae yn cynnig ystod eang o atyniadau diwylliannol, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm, y Senedd ac Adeilad y Pierhead.
Aros am fwy nag un diwrnod?
Os ydych am aros yng Nghaerdydd yn hirach, efallai yr hoffech ymweld â Pharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog, ymdrochi eich hun mewn hanes yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, mynd i rafftio dŵr gwyn neu fwynhau’r golygfeydd ysblennydd o Bier Penarth.
Gallwch ddarganfod mwy am y brifysgol a dinas Caerdydd trwy fynd ar ein taith ryngweithiol ar-lein.