Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Bws Gwennol ar gyfer y Diwrnod Agored i Israddedigion

Mynnwch ragor o wybodaeth ynghylch ein gwasanaethau bws gwennol ar gyfer y Diwrnod Agored i Israddedigion.

Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd

Bydd Bws Caerdydd yn cynnig gwasanaeth bws gwennol arbennig ar gyfer Diwrnod Agored y Brifysgol, a fydd yn gadael maes Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd (Cyffordd 30 yr A48(M), CF23 8HH) i fynd i Gampws Parc Cathays. Bydd gwasanaeth bws y Diwrnod Agored yn dechrau ar ôl 08:00 ac yn parhau tan 16:30.

Bydd bysiau o’r maes Parcio a Theithio’n gadael tua phob 15 munud. Mae’r daith i ganol y ddinas yn cymryd tua 20 munud a bydd yn costio £12 y car (arian parod neu daliad digyffwrdd).  Bydd angen yr arian cywir arnoch chi os byddwch chi’n talu gan ddefnyddio arian parod. Mae’r gwasanaeth Parcio a Theithio yn opsiwn mwy cyfleus, gan fod lleoedd parcio yng nghanol y ddinas yn gallu bod yn brin iawn, gyda chostau parcio’n amrywio.

Bydd y bysiau sy’n dychwelyd i faes Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd yn gadael o’r safle bws y tu allan i Adeilad y Gyfraith ym Mhlas y Parc (Campws Parc Cathays) drwy gydol y dydd, tan 16:30. Dyma’r un safle bws lle bydd ymwelwyr yn gadael y bws gwennol wrth gyrraedd y Brifysgol.

Sylwer ei bod yn bosibl y bydd ciw ar gyfer y gwasanaethau hyn ar y ffordd i’r Brifysgol ac oddi yno.

Sylwer y bydd y safle Parcio a Theithio yn cau’n brydlon am 18:00, a chaiff ei gloi dros nos. Ni fydd modd cael mynediad at y safle ar ôl 18.00, a bydd y safle ar gau ar ddydd Sul.

Gwasanaethau bws gwennol am ddim

Neuaddau Preswyl Tal-y-bont a Phentref Hyfforddiant Chwaraeon, a Champws Parc y Mynydd Bychan (ar hyd Gorllewin Parc y Mynydd Bychan)

Bydd bysiau gwennol rhad ac am ddim ar gael o Ffordd y Coleg (Campws Parc Cathays) i gludo’r rheiny sy’n dymuno ymweld â Neuaddau Preswyl Tal-y-bont a Phentref Hyfforddiant Chwaraeon, a Champws Parc y Mynydd Bychan (ar hyd Gorllewin Parc y Mynydd Bychan). Sylwer ei bod yn bosibl y bydd ciw ar gyfer y gwasanaethau hyn ar y ffordd i’r Brifysgol ac oddi yno.

Llwybr 1: Ffordd y Coleg (yn agos at y Deml Heddwch), Campws Parc Cathays i Gampws Parc y Mynydd Bychan (ar hyd Gorllewin Parc y Mynydd Bychan), trwy Breswylfeydd Tal-y-bont a'r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal drwy'r dydd o 09:00 ymlaen. Bydd y bws olaf yn gadael Ffordd y Coleg ar Gampws Parc Cathays am 15:00 a Champws Parc y Mynydd Bychan am 16:30.

  1. Ffordd y Coleg, Campws Parc Cathays
  2. Neuaddau Preswyl Tal-y-bont a’r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon
  3. Campws Parc y Mynydd Bychan (ar hyd Gorllewin Parc y Mynydd Bychan)

Bydd y daith yn dychwelyd yn ymweld â'r un arosfannau i'r gwrthwyneb.

Adeiladau Trevithick a'r Frenhines

Llwybr 2: Canolfan Bywyd y Myfyrwyr i Adeiladau'r Frenhines a Trevithick (ar gyfer yr Ysgolion Peirianneg a Ffiseg a Seryddiaeth)

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal drwy'r dydd o 09:00 ymlaen. Bydd y bws olaf yn gadael Canolfan Bywyd y Myfyrwyr am 15:15 ac Adeiladau Trevithick a'r Frenhines am 16:00.

  1. Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
  2. Adeiladau'r Frenhines a Threvithick (ar gyfer yr Ysgol Peirianneg, a’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth)

Bydd y daith yn dychwelyd yn ymweld â'r un arosfannau i'r gwrthwyneb.