Ewch i’r prif gynnwys

Tocynnau rhatach ar gyfer y Diwrnod Agored israddedig

Gallwch dderbyn gostyngiad ar docynnau trên Great Western Railway (GWR) a Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer ein Diwrnodau Agored israddedig.

Great Western Railway

Mae Great Western Railway (GWR) yn cynnig gostyngiad o 20% ar docynnau rheilffordd ‘Prynu Ymlaen Llaw’ i'n Diwrnodau Agored ar 14 Medi 2024 a 19 Hydref 2024.

Sut i gael y gostyngiad

Prynwch eich tocynnau trên am bris rhatach. Nid oes angen côd gan fod y gostyngiad yn cael ei roi yn awtomatig (yn dibynnu ar argaeledd, gweler y telerau ac amodau).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, cysylltwch â GWR drwy ffonio +44 (0)345 700 0125 (opsiwn 2, ac yna opsiwn 2 eto).

Cymorth i archebu tocynnau a brynir ymlaen llaw

Tocynnau y gellir eu prynu ymlaen llaw

Mae ‘Prynu Ymlaen Llaw’ yn cyfeirio at docyn y gellir ei brynu hyd at 18:00 ar y diwrnod cyn teithio, cyhyd ag y bo ar gael. Unwaith y caiff ei brynu, nid yw'n hyblyg (h.y. nid oes modd newid amserau na dyddiadau teithio) ac nid oes modd cael ad-daliad.

Ni allaf weld y pris gostyngol

Mae croes fach wrth ymyl pris y tocyn i ddynodi’r pris i fyfyrwyr ar gyfer y tocynnau ‘Prynu Ymlaen Llaw’. Os nad oes croes goch i'w gweld, yna mae'n bosibl y bydd y tocynnau 'Prynu Ymlaen Llaw' ar gyfer y diwrnod hwnnw wedi'u gwerthu i gyd. Unwaith y bydd y pris gostyngol wedi'i ddewis, bydd seren '*' i’w gweld o dan adran y prisiau.

Nid yw'r ddolen at y dudalen prynu tocynnau'n gweithio

Efallai fod angen i chi ddiweddaru eich porwr rhyngrwyd. Rydym yn argymell defnyddio Google Chrome neu Firefox. Efallai y bydd angen clirio eich cwcis.

Dydw i ddim yn gallu gweld y pris gostyngol

Dim ond ar lwybrau GWR y mae'r teithiau hyn ar gael. Gwnewch yn siŵr fod yr holl daith ar GWR. Gwiriwch y gorwel prynu tocynnau hefyd. Mae 'Prynu Ymlaen Llaw' yn agor 12 wythnos cyn teithio.

Telerau ac amodau

  1. Dim ond trwy'r ddolen a ddarperir y gellir prynu tocynnau
  2. Mae gostyngiad GWR ar gyfer y Diwrnodau Agored ar gael ar gyfer teithio ar wasanaethau GWR yn unig. Os ydych chi'n teithio o ranbarth o'r wlad, neu o fewn rhanbarth o’r wlad, nad yw'n rhan o rwydwaith GWR, mae'n bosibl y bydd angen i chi brynu tocynnau ar wahân i'ch cyrchfan
  3. Rhaid i'r gyrchfan fod yn berthnasol i Brifysgol Caerdydd h.y. Caerdydd Canolog, Cathays neu Gaerdydd Heol y Frenhines
  4. Rhaid i fan cychwyn eich taith fod yn rhan o rwydwaith GWR, ond nodwch nad yw tocynnau Prynu Ymlaen Llaw ar gael ar gyfer teithiau pellter byr
  5. Mae'r cynllun hwn ar gael i'w ddefnyddio gyda thocynnau Prynu Ymlaen Llaw yn unig. Mae'r rhain yn gosod amserau a dyddiadau teithio ac nid oes modd eu cyfnewid na chael ad-daliad
  6. Mae gostyngiad GWR ar gyfer y Diwrnodau Agored ar gael ar gyfer y dyddiadau a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd a'r wythnos y cynhelir y digwyddiad, sy'n mynd o ddydd Sadwrn i'r dydd Sul canlynol. Felly, mae cyfle i chi aros am fwy na diwrnod i gael gweld rhagor o’r ardal leol
  7. Mae modd defnyddio’r gostyngiad gyda’ch Cerdyn Rheilffordd 16-25. Ticiwch y blwch ar y dudalen nesaf ato a dewiswch o'r gwymplen

Sylwer mai dim ond pan fydd tocynnau'n cael eu prynu yn uniongyrchol o GWR.com ac nid trwy drydydd parti fel Trainline y mae’r gostyngiad yn ddilys.

Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gostyngiad o 10% ar docynnau trên i’n Diwrnod Agored ddydd Sadwrn 14 Medi 2024.

Sut i gael y gostyngiad

Bydd tocynnau ar gael i’w prynu’n syth ar gyfer 13 Medi - 15 Medi (yn gynhwysol), i’r rheini sydd am deithio i Gaerdydd y diwrnod blaenorol neu sydd am ddychwelyd yn ôl drannoeth y digwyddiad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu fater yr hoffech ei drafod ynghylch y cynnig hwn, cysylltwch â Thrafnidiaeth Cymru yn hytrach na Phrifysgol Caerdydd.

Mae'n rhaid dewis Caerdydd Canolog fel cyrchfan wrth archebu tocyn ar gyfer ein Diwrnod Agored. Mae ein prif gampws, Parc Cathays, o fewn taith fer ar fws neu drên o Orsaf Caerdydd Canolog.

Dim ond drwy ffonio’r tîm Teithio ar Fusnes, Trafnidiaeth Cymru mae modd prynu tocynnau. Bydd angen cerdyn credyd/debyd i dalu.

Mae’r tîm Teithio ar Fusnes ar gael o 09:30 tan 16:30 ddydd Llun i Gwener. Ffoniwch Trafnidiaeth Cymru ar 02920 720515.

Telerau ac amodau

  1. Mae'r gostyngiad yn ddilys ar gyfer gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TFW) yn unig
  2. Mae’r gostyngiad o 10% ar gael ar gyfer tocynnau Prynu Ymlaen Llaw Trafnidiaeth Cymru yn unig
  3. Mae’r tocynnau’n cyfateb i amserau penodol a byddant yn ddilys ar gyfer y trên penodol hwnnw yn unig
  4. Byddwch yn casglu tocynnau drwy ddefnyddio cyfeirnod Tocyn wrth Ymadael a roddir wrth i chi brynu’r tocyn
  5. Nid oes modd cael ad-daliadau ar gyfer tocynnau