Ewch i’r prif gynnwys

Neuadd y Brifysgol

Mae Neuadd y Brifysgol yn sefyll yn ei dir helaeth, dymunol ei hun. Mae’r Neuadd tua thair milltir o ganol y ddinas.

Mae yna 251 o ystafelloedd ensuite a 416 o ystafelloedd safonol. Mae 177 o’r ystafelloedd sengl ensuite a 365 o’r ystafelloedd sengl safonol ar gael ar gyfer archebu grwpiau.

Derbynfa

Cyfeiriad derbynfa Neuadd y Brifysgol yw:

Neuadd y Brifysgol
Lôn Birchwood
Penylan
Caerdydd
CF23 5YB

Rhif ffôn: +44 (0)29 2251 0597

Amseroedd agor

DyddOriau Agor
Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)

08:00–18:00

Cyrraedd a gadael

Mae allweddi ar gael i'w casglu ar ôl 15:00 ar y diwrnod rydych yn cyrraedd. Ar ddiwrnod yr ymadawiad dylid gadael ystafelloedd erbyn 10:00.

Cyrraedd y tu allan i oriau

Y tu allan i oriau agor y dderbynfa, mae'r tîm Diogelwch ar gael ar gyfer rheiny sydd wedi trefnu eu bod nhw'n cyrraedd yn hwyr neu ar gyfer unrhyw argyfyngau.

Ystafell Rheoli Diogelwch

Cyswllt

Llety unigol a grŵp