Campws y Gogledd
Mae yna ddau opsiwn llety ar gampws y Gogledd: Neuadd Colum a Neuadd Aberconwy.
Mae pob un o’r 110 ystafell yn Neuadd Colum yn ystafelloedd sengl gydag ensuite. Mae’r fflatiau wedi’u rhannu yn fflatiau o wyth yn rhannu ardal cegin gymunedol.
Mae 72 ystafell ar gael yn Neuadd Aberconwy. Mae’r ystafelloedd yn y llety yn rhai sengl gydag ensuite a rannir (dwy ystafell yn rhannu ystafell ymolchi).
Derbynfa
Mae derbynfa preswylfeydd Campws y Gogledd yn Neuadd Aberdâr:
Neuadd Aberdâr
Heol Corbett
Caerdydd
CF10 3UP
Ffôn: +44 (0)29 2087 6476
Amseroedd agor
Dydd | Oriau agor |
---|---|
Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) | 08:00 – 21.45 |
Dydd Sadwrn a dydd Sul | 09:00 – 21.45 |
Cyrraedd a gadael
Mae allweddi ar gael i’w casglu ar ôl 15:00. Ar ddiwrnod yr ymadawiad dylid gadael ystafelloedd erbyn 10:00.
Cyrraedd y tu allan i oriau
Y tu allan i oriau agor y dderbynfa, mae’r tîm Diogelwch ar gael ar gyfer rheiny sydd wedi trefnu eu bod nhw’n cyrraedd yn hwyr neu ar gyfer unrhyw argyfyngau.