Ewch i’r prif gynnwys

Llety grŵp

Mae llety ar gael yn ystod misoedd yr haf mewn nifer o leoliadau, rhan fwyaf o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas. Mae yna amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys hunanarlwyo a gwely a brecwast.

Mae llety haf ar gael o Gorffennaf tan Medi a yr isafswm aros yw 2 ddiwrnod.

I wirio argaeledd, cysylltwch â'r Swyddfa Cynadleddau lle bydd aelod o'r tîm yn gallu'ch cynorthwyo.

Swyddfa Cynhadledd

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

  • fflatiau o niferoedd amrywiol gyda phob fflat yn cynnwys cegi/ardal fwyta
  • llestri, cyllyll a ffyrc, potiau a sosbenni a haearn smwddio
  • mae pob ystafell yn ddeiliadaeth sengl ac yn cynnwys tywelion a dillad gwely
  • cyfleusterau te a choffi wedi’u cynnwys
  • golchdy
  • mae haearnau smwddio, addaswyr a sychwyr gwallt o’r dderbynfa.

Yn ddibynnol ar eich anghenion, byddwn yn eich cynghori ar ba breswyl y Brifysgol fydd mwyaf addas ar gyfer eich grŵp.

Hygyrchedd

Efallai y bydd yn bosibl gwneud addasiadau hygyrchedd yn ystod eich arhosiad. Cysylltwch â'r tîm llety i drafod y rhain.

Lleoliadau

Tu allan i Ogledd Talybont

Gogledd Talybont a Phorth Talybont

Mae Talybont yn breswyliad perffaith ar gyfer grwpiau mawr ac wedi’i leoli 30 munud o daith gerdded i ganol y ddinas.

Tu allan i Neuadd Colum

Campws y Gogledd

Mae yna ddau opsiwn llety ar campws y Gogledd: Neuadd Colum a Neuadd Aberconwy.

Senghennydd Court and garden.png

Campws y De

Mae yna ddau opsiwn llety ar gampws y De: Neuadd Senghennydd a Llys Senghennydd.

Tu allan i Neuadd y Brifysgol

Neuadd y Brifysgol

Mae Neuadd y Brifysgol yn sefyll yn ei dir helaeth, dymunol. Mae’r Neuadd tua tair milltir o ganol y ddinas.

Neuadd Aberdâr

Neuadd Aberdâr

Mae Neuadd Aberdâr wedi’i lleoli ar Heol Corbett sy’n daith gerdded o tua 10-15 munud o ganol y ddinas.

Cysylltwch

Llety unigol a grŵp