Adeilad yr Ysbyty Deintyddol
![Adeilad yr Ysbyty Deintyddol](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/478386/Dentisty-Building.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XY
Mae Adeilad yr Ysbyty Deintyddol wedi’i leoli ar Rodfa Academaidd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan. Mae’r brif fynedfa yn wastad gyda drysau llithro awtomatig ac mae gan y dderbynfa cownter isel a chylchwifren. Mae’r lifftiau wedi’u lleoli yn y coridor ar y dde. Mae’r lifftiau yn gwasanaethu’r islawr i’r pedwerydd llawr. Mae lifft platfform yn rhoi mynediad rhwng y pedwerydd a’r pumed llawr. Mae yna doiled neillryw hygyrch a lleoedd newid babanod ger y brif fynedfa hygyrch.
Mae’r mynediad ar ochr yr adeilad i Adeilad yr Ysbyty Deintyddol drwy risiau gyda chanllawiau. Mae yna faes parcio tu ôl i Adeilad yr Ysbyty Deintyddol gyda 6 lle parcio hygyrch wedi’i neilltuo yn agos i’r fynedfa.
Hygyrchedd
Parcio
Mae gan Ysbyty Deintyddol y Brifysgol faes parcio ei hun. Fodd bynnag, mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid i ymwelwyr a staff dalu i barcio eu cerbydau.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae yna 22 lle parcio beic ar gael ar gyfer yr adeilad hwn.
Parcio Car
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.