sbarc|spark

Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Mae gan sbarc|spark fynediad hygyrch ar Heol Maendy. Mae’r adeilad ar agor rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r adeilad hwn yn gartref i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ac Arloesedd Caerdydd @ sbarc, ac mae ganddo ystafelloedd digwyddiadau, ystafelloedd cyfarfod, ystafell bwyllgorau, man i gynnal digwyddiadau, labordy ymddygiadol, labordy delweddu, stiwdio bodlediadau a swyddfeydd. Dim ond staff sy’n meddu ar gerdyn adnabod sy’n cael mynediad i’r swyddfeydd. Rhaid i bob ymwelydd gofrestru yn y dderbynfa.
Parcio
Mae 32 o lefydd parcio Talu wrth Fynd y gellir eu cadw ymlaen llaw ym maes parcio Heol Maendy. Rhaid eu cadw trwy RingGo.
Gall staff Prifysgol Caerdydd ddod o hyd i’r cod lleoliad presennol ar fewnrwyd y staff.
Mae deiliaid Bathodynnau Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu fan parcio cyffredinol yn rhad ac am ddim, yn amodol ar ddangos Bathodyn Glas dilys yn glir ar ffenest flaen y cerbyd. Rhaid i ddeiliaid Bathodynnau Glas anfon rhif cofrestru eu cerbyd i carparking@caerdydd.ac.uk heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl iddyn nhw gyrraedd.
Am barcio amgen ar y stryd, ewch i wefan Cyngor Caerdydd.
Parcio beiciau
Mae rheseli beiciau ar flaen yr adeilad ger y maes parcio.
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.