Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Adeilad Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB.

Yn ystod y tymor mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 - 22:00, Dydd Sadwrn 08:00 - 20:00, Dydd Sul 10:00 - 20:00.

Mae’n gartref i’n gwasanaethau cymorth rhad ac am ddim, diduedd a chyfrinachol. P'un a ydych chi'n chwilio am gyngor ar gyllid, help gyda'ch iechyd a'ch lles, neu wybodaeth am yrfaoedd a chyflogaeth, mae ein timau Bywyd Myfyrwyr wrth law i helpu.

Ar ben hynny, bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynnwys ein darlithfa fwyaf newydd a’r un fwyaf o ran maint, a llawer o leoedd astudio cymdeithasol dros bum llawr. Mae'r adeilad ar gyfer pob myfyriwr, wedi'i gynllunio gyda'ch profiad mewn golwg.

Hygyrchedd

Canllaw AccessAble: Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

Mae canllawiau hygyrchedd AccessAble yn cynnwys ffeithiau, ffigyrau, a ffotograffau i helpu myfyrwyr, ymwelwyr a staff i gynllunio eu taith i'r brifysgol ac o amgylch y brifysgol.

Parcio

Mae gan Gaerdydd gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da a llwybrau beicio a cherdded. Rydym yn annog pawb i deithio drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy lle bo hynny'n bosibl, gan gefnogi Cymru i sicrhau dyfodol carbon isel. Darllenwch ein Cynllun Teithio.

Mae modd parcio ar y strydoedd cyhoeddus ger Parc y Plas, lle gall deiliaid bathodyn glas barcio yn rhad ac am ddim.

Parcio beiciau

Mae 62 o leoedd parcio beiciau ar gael. Mae hyn yn cynnwys 8 rhesel  Beiciau Sheffield, a 54 o fannau beic fertigol.