Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigon Ysgol Busnes Caerdydd.
Canolfan Addysgu Ôl-raddedigon Ysgol Busnes Caerdydd.

Heol Colum
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Mae'r Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion yn gartref i raglenni addysg i ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd.

Hygyrchedd

Canllaw AccessAble: Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion

Mae canllawiau hygyrchedd AccessAble yn cynnwys ffeithiau, ffigyrau, a ffotograffau i helpu myfyrwyr, ymwelwyr a staff i gynllunio eu taith i'r brifysgol ac o amgylch y brifysgol.

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws.

Parcio Car

Parcio ar gyfer beiciau

Mae 10 lle i barcio beic yn y lleoliad hwn.