Ewch i’r prif gynnwys

Abacws

Awyrlun o adeilad newydd Abacws.
Adeilad Abacws.

Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG.

Mae Abacws yn dod â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg at ei gilydd mewn un cyfleuster o'r radd flaenaf. Mae'r adeilad gerllaw gorsaf drenau Cathays.

Mae'r chwe llawr newydd wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a darlithwyr i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, gyda mannau addysgu arloesol.

Mae yna hefyd leoedd penodol ar gyfer gwaith prosiect myfyrwyr.

Hygyrchedd

Canllaw AccessAble: Abacws

Mae canllawiau hygyrchedd AccessAble yn cynnwys ffeithiau, ffigyrau, a ffotograffau i helpu myfyrwyr, ymwelwyr a staff i gynllunio eu taith i'r brifysgol ac o amgylch y brifysgol.

Parcio

Mae rheseli beiciau wedi'u gorchuddio yng nghefn yr adeilad ac i'r gorllewin ohono. Mae'r rhain ar gael i'r rhai gyda cherdyn staff neu fyfyrwyr.

Parcio beiciau

Mae rheseli beiciau ar gael am ddim hefyd y tu ôl i'r adeilad wrth ymyl swyddfa docynnau gorsaf reilffordd Cathays.