Ewch i’r prif gynnwys

Gwella tystiolaeth o gleisiau yng nghyd-destun lliw’r croen

Mae cleisiau yn anos i'w canfod a'u dogfennu mewn pobl â chroen tywyllach, ac mae gan hyn oblygiadau i'r rheini sy'n cael eu hanafu oherwydd trais.

Er enghraifft, efallai na fydd angen triniaeth yn achos tagu nad yw'n angheuol yn yr Adran Achosion Brys, ond mae'n rhagfynegi anafiadau difrifol at y dyfodol. Mae diwygio deddfwriaeth yn 2021 (Adran 70 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig) yn cydnabod hyn a’r pwysigrwydd ynghlwm wrth ddod o hyd i gleisiau sy’n gysylltiedig ag ymosodiad yn ogystal â dangos tystiolaeth o hyn.

Cefnogi dioddefwyr trais

Fodd bynnag, mae canfyddiad gwael o hyn ymhlith dioddefwyr â chroen tywyllach yn arwain at y farn nad ydyn nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, nad yw ymarferwyr yn sylwi ar eu cleisiau nac yn dangos tystiolaeth o hyn, gan leihau’r mynediad at gyfiawnder a gofal iechyd.

Mae’r dystiolaeth gyfyngedig yn arwain at ragor o ragfarn mewn penderfyniadau diogelu. Nid yw'r mater hwn yn unigryw i ddioddefwyr trais. Mae dermatolegwyr yn canfod bod cyflyrau croen yn cael eu methu yn y rheini sydd â mwy o bigmentiad yn y croen. Mewn ymateb i hyn, datblygwyd hidlwyr croesbolareiddio ym maes dermatoleg i weld y tu hwnt i bigmentiad y croen er mwyn cynnig lluniau cliriach o annormaleddau. Gellir cysylltu'r hidlwyr hyn â chamerâu, ac mae ymchwil yn dangos eu bod hefyd yn gwella'r broses o ganfod cleisiau a thynnu lluniau ohonyn nhw. Ein nod yw datblygu ymyrraeth sy'n defnyddio'r hidlwyr hyn er mwyn i ymarferwyr rheng flaen eu defnyddio. Mae swyddogion yr heddlu sy'n bresennol a staff rheng flaen eraill yn cynnal asesiadau risg yn rheolaidd ac yn tynnu lluniau (gan ddefnyddio eu ffôn gwaith) yn dystiolaeth o’r anaf.

Nodau ein hymchwil

Fodd bynnag, mae ein rhaglen Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion ac ymgysylltu ehangach wedi canfod sawl rhwystr y mae angen eu lliniaru wrth inni ddatblygu’r ymyrraeth hon.

  1. (Mae’r canllawiau cyfredol ar sut i gasglu tystiolaeth o gleisiau bellach yn henffasiwn ac ond yn berthnasol i bobl â chroen gwyn. Rydyn ni eisiau dod o hyd i gyfleoedd i'w diweddaru.
  2. Mae ymddiriedaeth mewn plismona rheng flaen yn amrywio, ac mae rhai pobl yn mynd ati’n bwrpasol i osgoi cysylltu â’r heddlu.
  3. Weithiau, bydd rhai pobl yn osgoi craffu gan arbenigwyr gofal iechyd.
  4. Hwyrach y byddai arbenigwyr gofal iechyd eraill (e.e. meddygon teulu, deintyddion, clinigau atgyfeirio yn dilyn ymosodiadau rhywiol, parafeddygon, staff llochesi) yn elwa hefyd. Rydyn ni’n ceisio deall amharodrwydd o du’r dioddefwr, yr hyn y gellir ei wneud i'w oresgyn, a pha weithwyr proffesiynol sydd yn y sefyllfa orau i ddefnyddio'r ddyfais. Mae gwahaniaethau ym mhigmentiad y croen hefyd yn gysylltiedig ag ethnigrwydd ac felly amrywiadau yn y disgwyliadau diwylliannol ynghylch sut y dylai dioddefwyr ymateb i drais.
  5. Rydyn ni’n ceisio casglu'r amrywiadau hyn a sut y gallai’r rhain effeithio ar yr ymyrraeth.
  6. Rydyn ni eisiau canfod a goresgyn unrhyw rwystrau ieithyddol, er enghraifft efallai y byddai ffoaduriaid yn siarad ychydig o Saesneg neu Gymraeg. Yn olaf, er bod y defnydd o'r ddyfais yn syml, dyma ymyrraeth gymhleth, a’n
  7. Nod yw canfod anghenion hyfforddi’r ymarferwyr i gasglu tystiolaeth ynghylch safonau cyfredol casglu tystiolaeth yn ogystal â mynd i'r afael â ffactorau diwylliannol. Rydyn ni eisiau gwerthuso'r ddyfais yn y pen draw mewn lleoliad cymunedol.
  8. Mae gofyn inni ganfod y deilliannau sy'n dangos gwerth y ddyfais. Ymhlith y deilliannau hyn mae achosion o ofal brys, ymweliadau ag adrannau brys, marwolaethau ac anafiadau difrifol, yn ogystal â deilliannau cysylltiedig gan gynnwys cyhuddo ac erlyn troseddwyr, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar ddiogelwch dioddefwyr. Fodd bynnag, dymunwn gasglu deilliannau sy'n benodol i ddioddefwyr gan gynnwys ansawdd bywyd hunangofnodedig a cheisio datblygu arbenigedd yn dilyn ymgysylltu â goroeswyr.

Ein dyhead yw ymyrraeth sy'n dderbyniol ac sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb gofal iechyd sy'n gysylltiedig â thrais a pherthyn i grŵp ethnig leiafrifol.

Prif Ymchwilydd