Prosiectau ymchwil
Mae'r Grŵp Ymchwil Trais yn ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil sydd ar waith.
Mae ein staff yn barhaus yn gweithio ar brosiectau newydd sy'n ymchwilio i'r materion allweddol sy'n ymwneud â thrais a'r effaith mae'n ei gael ar gymdeithas.
Gan groesi disgyblaethau academaidd gwahanol a chydweithio gyda'r gymuned leol, mae ein prosiectau'n rhannu gwybodaeth a phersbectifau newydd ar achosion trais a sut y gellir ei atal.
Dan arweiniad Prif Ymchwilydd, mae gan bob prosiect set o nodau ac amcanion sy'n llywio'r astudiaeth. Mae gan y mwyafrif o'n prosiectau elfen gydweithredol, sy'n galw am gymorth gan y gymuned ehangach.