Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Trais yw’r prif achos yn fyd-eang am farwolaeth ac anafiadau difrifol i blant, pobl ifanc ac oedolion ifanc. Mae’r dasg o leihau trais felly nid yn unig yn flaenoriaeth i asiantaethau cyfiawnder troseddol, ond i'r gwasanaethau iechyd a chyhoeddus arall hefyd.

Trwy ein ymchwil a thystiolaeth ar sail eiriolaeth, mae’r Grŵp Ymchwil Trais wedi newid polisi a gweithredu ymarferol i leihau trais ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ers sefydlu’r grŵp yn 1996, mae’r Grŵp wedi cyflawni ac yn parhau i:

  • ddeall achosion ac effeithiau trais ac yn cynhyrchu cymhwysiadau’r byd go iawn i’w atal
  • gwerthuso mentrau atal trais, gweithio gyda darparwyr gwasanaeth – asiantaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau’r trydydd sector
  • gwerthuso effeithlonrwydd y gweithgareddau a gynllunir i leihau effeithiau seciolegol, cymdeithasol ac economaidd trais
  • trosi mentrau effeithiol i bolisi ac ymarfer lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Mae’r Grŵp yn cael ei arwain gan academyddion clinigol mewn partneriaeth â gwyddonwyr ac yn defnyddio arbenigedd ar draws Prifysgol Caerdydd. Mae cryfder ac enw da’r grŵp yn dod o’i ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws meysydd seiciatreg, iechyd cyhoeddus, deintyddiaeth, cyfiawnder troseddol, heddlu, seicoleg, gwyddoniaeth deunyddiau ac economeg; a’u hanes hir yn arloesi ac yn cyfrannu at bolisi ac atal trais.

Mae aelodau’r grŵp wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau mewn dros 400 o bapurau mewn cyfnodolion blaenllaw, rhwydweithiau ymchwil blaenllaw rhynglwadol a chenedlaethol ac wedi gosod atal trais i feysydd llafur prifysgolion a'r Coleg Brenhinol Meddygol.