Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Cyrsiau a gweithdai ar gyfer staff dysgu ac addysgu
Mae'r gweithdai hyn wedi'u fframio o amgylch themâu ac egwyddorion allweddol sydd wedi'u hymgorffori yn ein Pecyn Cymorth Datblygu Addysg, adnodd arlein sy’n rhoi arweiniad, offer ac enghreifftiau ar draws amryw o egwyddorion dysgu ac addysgu allweddol.
Maent yn ategu ein Rhaglen Cymrodoriaethau Addysg achrededig Advance HE, a'n adnoddau arlein ac asyncronaidd. Mae'r holl raglenni wedi eu mapio i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF).
Cofrestru
Mae'r rhaglen lawn ar gael ar y dudalen Cyrsiau a Gweithdai ar gyfer staff Dysgu ac Addysgu a gellir cadw lle trwy ddefnyddio Microsoft Forms. Bydd eich presenoldeb mewn gweithdai yn cael ei ddiweddaru ar y System Adnoddau Dynol fel ei fod yn weladwy ar eich cofnod hyfforddi. Ar y ffurflen, dewiswch y cwrs yr hoffech fynychu. Bydd y ffurflen yn rhoi’r dyddiadau sydd ar gael i chi ddewis ohonynt. Llenwch ffurflen newydd ar gyfer pob gweithdy yr hoffech gadw lle arno.
Os oes gennych chi gwestiynau, neu awgrymiadau ar gyfer pynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw naill ai yn ystod y flwyddyn i ddod neu yn y dyfodol, cysylltwch â LTAcademy@caerdydd.ac.uk.