Ein hymateb i’r Coronafeirws (COVID-19)
Mae ymchwilwyr Sefydliad Ymchwil y Brifysgol ym maes Imiwnedd Systemau (SIURI) wedi chwarae rôl amlwg mewn ymateb i’r coronafeirws (COVID-19).
Rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ac wedi chwarae rhan bwysig mewn cynlluniau ledled y DU o ran dilyniannu firysau a deall rôl y system imiwnedd yn ystod y coronafeirws (COVID-19), ymhlith ystod eang o weithgareddau ymchwil.
Deall y system imiwnedd yn ystod COVID-19
Fe wnaeth gwyddonwyr SIURI gyfraniad amlwg ym maes ymchwil am imiwnoleg sy'n gysylltiedig â choronafeirws COVID19. Fe wnaethant roi dealltwriaeth newydd o sut mae'r system imiwnedd yn gweithredu yn ystod haint SARS-CoV-2 ac ymchwilio i strategaethau therapiwtig newydd i fodiwleiddio'r ymateb imiwn mewn cleifion COVID difrifol. Ar ben hynny, fe wnaethant ddatblygu dyluniadau diagnosteg i ganfod a yw unigolion wedi cyflwyno ymatebion imiwn i SARS-CoV-2.
Ymchwilwyr o dan sylw
- Yr Athro Paul Morgan
- Dr Richard Stanton
- Dr Eddie Wang
- Yr Athro David Price
- Yr Athro Ian Humphreys
- Yr Athro Awen Gallimore
- Yr Athro Peter Ghazal
- Yr Athro Andy Sewell
Dolenni ar gyfer y cyfryngau
- Covid patients at 'death's door' recovering with immune system drugs, scientists say - The Telegraph
- Coronavirus: Immunity may be more widespread than tests suggest - BBC News
- Gwyddonwyr o Gymru yn cyfrannu at ymdrech y DU i ddeall sut mae’r system imiwnedd yn ymateb yn ystod Covid-19.
Gweithgareddau ymchwil
Archwilio ymatebion imiwnedd mewn unigolion asymptomatig
Rydym yn cynnal Astudiaeth Graidd genedlaethol (mewn cydweithrediad â Nottingham a Chaergrawnt), gan gydlynu rhaglenni profi asymptomatig COVID-19 mewn lleoliadau prifysgol yn genedlaethol, gan gynnwys llinbibell qPCR Prifysgol Caerdydd, gan roi cipolwg ar imiwnedd a gaffaelwyd ar draws poblogaeth y myfyrwyr.
Ymchwilwyr o dan sylw - Andrew Westwell, Andy Godkin, Awen Gallimore a Tomasz Jurkowski
Astudio brechiadau COVID
Mae amddiffyn yr unigolion mwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth allweddol i strategaeth frechu SARS-CoV-2. Rydym yn archwilio effaith brechu ar gelloedd T SARS-CoV-2-benodol ac ymatebion gwrthgyrff mewn cleifion canser, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Banc Canser Cymru.
Ymchwilwyr o dan sylw - Awen Gallimore, Andrew Godkin, Mererid Evans a Alison Parry-Jones.
Gydag Uned Ymchwil Arennol Cymru, rydym yn astudio ymatebion imiwnedd a ysgogir gan frechlynnau mewn cleifion dialysis arennol.
Ymchwilwyr o dan sylw - Argiris Asderakis, Stephen Jolles, Ian Humphreys a Soma Meran.
Olrhain ac ymosod ar SARS-CoV-2
Rydym wedi gwneud cyfraniadau mawr i ymdrechion cenedlaethol, fel rhan o Gonsortiwm Genomeg y DU (COG-UK) COVID-19, gan olrhain SARS-CoV-2.
Rydym wedi cymryd rhan mewn ymdrechion lleol i sefydlu piblinell PCR Prifysgol Caerdydd ar gyfer profion asymptomatig ar ein staff a'n myfyrwyr, er mwyn helpu i ganfod heintiau SARS-CoV-2. Rydym hefyd wedi datblygu strategaethau ar gyfer rheoli haint SARS-CoV-2, gan ymchwilio i weld a ellir manteisio ar gegolch i reoli haint SARS-CoV-2.
Ymchwilwyr o dan sylw - Valerie O’Donnell, David Thomas, Richard Stanton a Thomas Connor.
Aml-forbidrwydd a rhagfynegi deilliannau
Y tu hwnt i imiwnoleg, mae ymchwilwyr SIURI wedi cael effaith sylweddol o ran deall sut mae clefydau a chyflyrau eraill, o’r term aml-forbidrwydd, yn effeithio ar ddifrifoldeb COVID-19. Rydym wedi ymchwilio i weld a allwn ragweld deilliannau clinigol COVID-19 gan fiofarcwyr cynnar.
Ymchwilwyr o dan sylw - Matthias Eberl, Jon Underwood, Stephen Jolles, Simon Jones a Ian Humphreys.
Delio â'r pandemig gwybodaeth
Gan weithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen, rydym wedi sefydlu system adolygu llenyddiaeth ar gyfer llenyddiaeth wyddonol COVID-19 sy'n gysylltiedig ag imiwnoleg.
Mae'r fenter, sy'n cael ei gyrru gan fyfyrwyr PhD a phostio wedi arwain at ddatblygu 'Adolygiadau Byw', sy'n galluogi diweddaru cyson i gadw i fyny â phwnc ymchwil COVID-19 sy'n newid yn barhaus.
Mae'r adolygiadau ar gael yng nghyfnodolyn mynediad agored newydd Gwasg Prifysgol Rhydychen (OUP), Imiwnoleg Agored Rhydychen.