Ymgysylltu a chymryd rhan
Mae ein gwaith ymgysylltu a chynnwys yn rhan ganolog o'n hymchwil. Rydym yn ymgysylltu gyda'n holl rhanddalwyr, ein cleifion, darparwyr gofal iechyd, ysgolion, cyllidwyr, dylunwyr polisi a diwydiant.
Mae ein gwaith ymchwil ar y system imiwnedd a'n canfyddiadau yn y clinig yn cael effeithiau hirdymor ar wyddoniaeth a chymdeithas yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.
Mae ein Cyfadran Lleyg yn chwarae rhan allweddol mewn arolygu blaenoriaethau ymchwil o fewn y sefydliad, yn goruchwylio trosglwyddo ein darganfyddiadau a mabwysiadu perthynas agos rhwng ein hymchwilwyr syflaenol a chlinigol gyda'r cyhoedd.
Heblaw am gyhoeddiadau a chyflwyniadau a adolygwyd gan gymheiriaid, mae ein darganfyddiadau ymchwil yn cael eu rhannu trwy gyfrwng datganiadau i'r wasg ac ar gael ar wefan y Brifysgol. Yn ogystal gellid ddod o hyd iddynt ar ffurf printiedig yn ein cylchlythyrau rheolaidd ac ar ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys Facebook a Twitter.
Rydym yn ymgysylltu â'r gymuned academaidd ehangach drwy gynnal digwyddiadau gwyddonol a seminarau mewn partneriaeth agos gyda chyrff proffesiynol megis y Cymdeithas Imiwnoleg Prydain. Mae nifer o'n harchwilwyr yn Uwch Arweinwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi, cynghori a hyrwyddo ymchwil yng Nghymru. .
Ymgysylltwn gyda chleifion i ddiffinio angen clinigol gweithredol ac i roi gwybod iddynt am ddarganfyddiadau a allai fod yn berthnasol iddynt ddeall a rheoli eu cyflwr. Mae cleifion hefyd yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn ein hymchwil drwy gymryd rhan yn Doeth am Iechyd Cymru. Yn ogystal, rydym yn eu recriwtio i gymryd rhan mewn treialon clingol ac i roi samplau i'n banciau meinwe.
Rydym yn datblygu gweithdai, seminarau ac arddangosfeydd sy'n canolbwyntio ar bob agwedd o'n hymchwil ac yn cydweithio gydag Amgueddfa Wyddoniaeth Techniquest ar weithgareddau ymgysylltu gyda'r cyhoedd. Rydym yn cymryd rhan mewn Darlithoedd Gwyddoniaeth mewn Gofal Cyhoeddus a digwyddiadau fel Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Fel rhan o gyfraniad Prifysgol Caerdydd i Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg, rydym yn ymgysylltu gydag athrawon a disgyblion ysgol drwy ddigwyddiadau Gwyddoniaeth mewn Iechyd: Yn fyw! a thrwy gynllun llysgennad STEM.
Am wybodaeth bellach am ein gweithgareddau ymgyslltu, cysylltwch â:
Yr Athro Matthias Eberl
Reader, Division of Infection and Immunity. Engagement Lead, Systems Immunity Research Institute.
- eberlm@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 7011
Ffilm yn disgrifio’r ffyrdd lle gallwch gynnwys y cyhoedd yn y cylch ymchwil a’r gefnogaeth, arweiniad ac adnoddau sydd ar gael yng Nghymru.