Amdanom ni
Deall a defnyddio’r system imiwnedd i sicrhau iechyd cyhoeddus byd-eang.
O ganser i gyflyrau llidiol, mae’r system imiwnedd yn chwarae rhan sylfaenol mewn clefydau acíwt a chronig. Drwy ddeall y mecanweithiau sylfaenol a manteisio ar eu swyddogaethau, ein nod yw datblygu arferion a thriniaethau clinigol fydd yn cael effaith uniongyrchol ar gleifion ledled y byd.
Canolfan arbenigedd ar gyfer imiwnoleg ac imiwnotherapi yw'r Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau. Gan ganolbwyntio ar ganser, clefydau heintus, clefydau llidiol a achosir gan y system imiwnedd yn ogystal â’r cymhlethdodau cysylltiedig, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ymchwil arloesol sy’n trawsnewid y broses o roi diagnosis a thrin cleifion yn ogystal â safon eu bywyd.
Ein huchelgais yw gwella iechyd y cyhoedd yn y dyfodol drwy ddatblygu diagnosteg a thriniaethau newydd a gwell ar gyfer clefydau ac addysgu'r cyhoedd a'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr. Ein Sefydliad Ymchwil yw'r lle delfrydol i hyfforddi a meithrin myfyrwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, fel y gallant barhau â'n gwaith o ddeall y rôl y mae'r system imiwnedd yn ei chwarae mewn clefydau heintus a chlefydau nad ydynt yn heintus.
Rydym yn ymgysylltu â'r cymunedau lleol i rannu gwybodaeth er mwyn helpu i leihau nifer yr heintiau sy’n cael eu heintio. Rydyn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda grwpiau o gleifion ynghylch therapïau sy’n cael eu datblygu sy'n seiliedig ar imiwnedd yn achos clefydau sy'n amrywio o gyflyrau llidiog i ganser. Drwy bartneriaethau diwydiannol, cwmnïau deillio a mentrau, rydyn ni’n gosod Cymru wrth ganol arloesi ym maes imiwnotherapi, gan wneud gwahaniaeth i gleifion yn ogystal â chyfrannu at dwf economi Cymru.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed y diweddaraf am ymchwil, newyddion, digwyddiadau, blogiau a mwy, gan Brifysgol Caerdydd.