Prisio gwasanaethau ecosystemau
Mae'r maes ymchwil hwn yn tynnu ar sawl thema a ddilynwyd drwy Ganolfan Ymchwil BRASS a fu'n edrych yn fras ar gwestiynau ynglŷn ag atebolrwydd, rheoleiddio a llywodraethiant ym maes yr amgylchedd.
Ceir sawl her ynglŷn â phrisio gwasanaethau ecosystemau, gan gynnwys gwasanaethau diwylliannol ac ategol, a llywodraethiant dalgylchoedd afonydd ar gyfer nifer o ddefnyddwyr. Drwy Uned Ymchwil BRASS, mae'r gwaith ymchwil yn ystyried y nifer fawr o gwestiynau ynghylch prisio gwasanaethau ecosystemau, gan gynnwys sut mae gwahanol ddefnyddwyr lleoedd ffisegol unigol yn gosod gwerthoedd gwahanol, a all fod yn gyferbyniol â'i gilydd, ar wasanaethau ecosystemau penodol, a sut i gynnwys gwasanaethau nad yw mor hawdd eu prisio (megis gwasanaethau diwylliannol) yn y cyfrifon gwladol.
Fel yn achos prosiectau eraill yr Uned, mae'r ymchwil yma wedi'i seilio ar wahanol raddfeydd gofodol, gan anelu'n benodol at edrych yn holistig ar ddalgylchoedd unigol er mwyn deall y cysylltiadau rhwng prisio, strwythurau ecosystemau (gan gynnwys bioamrywiaeth), rheoli tir, deddfwriaeth, llywodraethiant, grwpiau cymdeithasol a chymunedau.