Ewch i’r prif gynnwys

Bwyd cynaliadwy

Mae'r gwaith a wnaed gan Ganolfan Ymchwil BRASS yn y maes hwn yn y gorffennol yn cynnwys materion atebolrwydd a llywodraethiant bwyd; caffael bwyd (yn enwedig yn y sector cyhoeddus) a chynaliadwyedd; effeithiau newid hinsawdd ar gynhyrchu bwyd ac ar ddefnyddio bwyd; a ffyrdd i sicrhau systemau cyflenwi bwyd sy'n fwy cynaliadwy ac yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol.

Mae'r prosiectau cyfredol yn canolbwyntio'n fwy ar y bioeconomi a defnyddio tir, a deall y perthnasoedd rhwng ardaloedd trefol, lled-drefol a gwledig ar draws y sector bwyd a'r sector ynni. Mae'r ymchwil yn dal i fynd ati fesul astudiaeth achos a hynny ar sawl graddfa ofodol ledled y Deyrnas Unedig ac ardaloedd cymaradwy yn rhyngwladol. Mae'r safbwynt rhanbarthol yn arbennig o arwyddocaol hefyd.

Erbyn hyn mae Prifysgol Caerdydd yn bartner yn y Cynghrair Ymchwil Sicrwydd Bwyd a Thir amlddisgyblaeth gyda phrifysgolion Caer-wysg, Caerfaddon a Bryste a Rothamsted Research. Mae'r Gynghrair yn cyfuno arbenigedd o'r biowyddorau a'r gwyddorau amaethyddol, economeg a'r gwyddorau cymdeithasol, ac yn sefydlu de-orllewin Lloegr fel canolfan ragoriaeth o ran ymchwil fyd-eang ar sicrwydd bwyd a rheoli defnyddio tir.