Ewch i’r prif gynnwys

Cymunedau cynaliadwy

Mae cynaliadwyedd yn golygu mwy na dim ond ffyrdd o fyw ac ymddygiad defnyddwyr unigol neu weithgareddau busnesau penodol.

Mae llawer o'r atebion i anawsterau cynaliadwyedd yn debyg o gael eu rhoi ar ffurf atebion cyfun a thrwy ymdrechion cydweithredol mewn cymunedau a rhwng busnesau, y llywodraeth, cymunedau a defnyddwyr. Chwaraeodd Canolfan Ymchwil BRASS ran flaenllaw mewn ymchwil ar sut y gallai cymunedau mwy cynaliadwy gael eu datblygu, yn enwedig felly o safbwynt datblygu sgiliau ac arweinyddiaeth mewn cymunedau a allai sicrhau ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy.

Fel rhan o brosiect i'r ESRC a'r  Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, cafodd offeryn rhithwir arloesol ar gyfer cymunedau cynaliadwy ei ddatblygu, sydd bellach ar gael yn yr adran Ymgysylltu Cymunedol ar y wefan yma.

Mae'r ymchwil o dan y thema newydd yn canolbwyntio erbyn hyn ar gymunedau cynaliadwy ar draws sawl sector, gan gynnwys ynni a thrafnidiaeth, gan weld hyn fel yr haen feicro o ddadansoddi mewn dealltwriaeth ofodol o addasiadau a thrawsnewidiadau mewn dinas-ranbarthau. Erbyn hyn mae methodolegau ac ymagweddau fel hanesion dysgu ac ymchwil weithredol yn cael eu defnyddio a'u datblygu ymhellach mewn partneriaeth â chymunedau ledled Caerdydd a'r rhanbarth.