Archif BRASS
Cafodd y Ganolfan ar gyfer Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas (BRASS) ei sefydlu fel canolfan ymchwil aml-ddisgyblaeth a oedd yn cael ei hariannu gan yr ESRC rhwng mis Hydref 2001 a mis Ionawr 2013.
Ar y dechrau unodd academyddion o'r ysgolion Busnes, Cyfraith a Chynllunio Dinesig a Rhanbarthol (sef Cynllunio a Daearyddiaeth bellach) a chafodd ei chryfhau wedyn gan gyfraniadau gan gydweithwyr eraill, yn enwedig yn yr Ysgol Seicoleg ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Yn ei chyfnod o ychydig dros 11 mlynedd o gyllid ESRC, llwyddodd BRASS i gynnal lefel eithriadol o uchel o gynhyrchedd. Roedd yr allbwn yn cynnwys:
- Dros 470 o erthyglau mewn cyfnodolion ysgolheigaidd
- Dros 50 o lyfrau
- Dros 200 o benodau mewn llyfrau
- Dros 60 o bapurau gwaith
- ac ymhell dros 500 o bapurau mewn cynadleddau, a'r mwyafrif wedi'u cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol.
Llwyddodd ymchwilwyr BRASS yn gyson hefyd i ddatblygu dull 'ysgolheictod cysylltiedig', gan weithio mewn partneriaeth yn aml â defnyddwyr ymchwil o fyd ymarfer busnes a pholisi cyhoeddus.
Dros ei 11 o flynyddoedd creodd BRASS ryw 90 o adroddiadau i ddefnyddwyr ymchwil, ac mae ymchwilwyr BRASS wedi bod yn ymwneud yn agos â defnyddwyr drwy secondiadau, hyfforddiant, digwyddiadau ar y cyd, rôl cynghorydd arbenigol, cymryd rhan uniongyrchol mewn meysydd fel drafftio deddfwriaeth, a chynnal arfarniadau ar fentrau ymarferol penodol.
Trefnodd BRASS dair cynhadledd ryngwladol o bwys, sef Cynhadledd Rhwydwaith Gwyrddu Diwydiant yn 2006 (sef y tro cyntaf iddi gael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig), y gynhadledd ryngwladol gyntaf ar Olion Troed Ecolegol yn 2007, a Chynhadledd Polisi Deongliadol 2012.
Helpodd BRASS hefyd i gynnal ystod o weithdai, cynadleddau a digwyddiadau i ymarferwyr, gan gynnwys y gynhadledd ryngwladol gyntaf ar CSR i'r diwydiant bwyd, seminar ar risg a rheoleiddio i'r diwydiant bwyd, a digwyddiadau mawr i'r diwydiant mwyngloddio. Gwnaeth gyfraniad arwyddocaol hefyd at y syniad newydd o 'Wyddor Cynaliadwyedd' y mae llawer ohono wedi'i ddisgrifio yn y llyfr arloesol a gyhoeddwyd yn 2012 am ddulliau yn y gwyddorau cymdeithasol ynglŷn ag ymchwil cynaliadwyedd a seiliwyd yn llwyr ar brosiectau BRASS.
Esblygodd agenda ymchwil BRASS yn raddol dros yr 11 mlynedd y bu'n Ganolfan ESRC, ac erbyn y diwedd roedd yr agenda wedi crynhoi o gwmpas 10 maes prosiect allweddol, bob un yn cynnwys amryw o brosiectau o sylwedd:
1. Tuag at Symudedd Cynaliadwy:
- Technolegau Modurol Cynaliadwy
- Defnyddio Moduroldeb yn Gynaliadwy
- Manwerthu o Fân-Ffatrioedd
- Y Diwydiant Moduron Ddoe, Heddiw ac Yfory
2. Systemau Bwyd Cynaliadwy:
- Systemau Bwyd Amgen ac Economïau Lleol
- Cyflenwad Bwyd yr 21ain Ganrif: Y Ddeinameg Newydd
- Trawsffurfiadau Technolegol wrth Fwyta Bwyd ac mewn Systemau Cynhyrchu Bwyd
- Disgrifio Blas
- Tuag at Brydau Ysgol Cynaliadwy
- Y Bioeconomi a'r Ecoeconomi
3. Technolegau Cynaliadwy ac Arloesi Cyfrifol:
- Technolegau Cynaliadwy ac Arloesi Cyfrifol
- Bwyd
- Risgiau Nanodechnoleg
- Rheoleiddio Nanodechnoleg
- Technolegau Ynni a Dyfodol Ynni
4. Diogelu'r Amgylchedd a Chyfiawnder:
- Arolygon a Rheoli Gwastraff
- Effeithiau ar Dir
- Bioddiogelwch a Rheoleiddio Iechyd Anifeiliaid:
- Mynediad i Gyfiawnder Amgylcheddol
- Rheoleiddio'r Amgylchedd
- Rheoleiddio Estynedig ar Gyfrifoldeb Cynhyrchwyr
5. Dangosyddion ac Effeithiau Cynaliadwyedd:
6. Gwaith, Llesiant a Lles:
- Gwaith a Llesiant
- Cymunedau Cynaliadwy
- CSR a Hawliau Dynol
- Llesiant a Phobl Ifanc
- Tlodi, Risg a Bod yn Agored i Niwed
7. Newid Ymddygiad a Marchnata Cymdeithasol:
8. Modelau ac Arferion Busnes Cynaliadwy:
- Modelau Busnes Cynaliadwy
- Addysg a Syniadau i Reolwyr
- CSR, Llywodraethiant a Gwyrddu
- Menter Gymdeithasol
- Masnach Deg
- Marchnata Cynaliadwyedd
- Adroddiadau a Chyfrifon Cymdeithasol ac Amgylcheddol
- Buddsoddiadau Cymdeithasol Gyfrifol
9. CSR ac Atebolrwydd mewn Cyd-destunau Allweddol:
- Mwyngloddio
- Ecsbloetio Adnoddau: Corfforaethau a Chymunedau
- Rheoli Coedwigoedd
- Mentrau Bach a Chanolig
- CSR a'r Ddinas
- CSR a Chynaliadwyedd mewn Cadwynau Cyflenwi