Cymunedau gwledig-trefol cynaliadwy
Mae sawl agwedd sylfaenol ar greu lleoedd cynaliadwy, gan gynnwys datblygu systemau mwy cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth, cynhyrchu a dosbarthu bwyd, rheoli ynni a gwastraff a darparu tai, yn dibynnu ar ble a sut mae pobl yn byw.
Mae deall y gwahaniaethau mewn cyd-destun cymunedol (yn enwedig trefol yn erbyn gwledig) a phrosesau llywodraethu yn hanfodol wrth archwilio gwaith a bywoliaeth cynaliadwy.
Mae ein gwaith yn y maes hwn yn edrych ar gynaliadwyedd o gymunedau bach hyd at ddinasoedd a dinas-ranbarthau. Bydd hyn yn ysgogi ein hymchwil ar lefel dinas-ranbarth a chymunedol, gan archwilio beth yw rôl cymunedau a graddfeydd gofodol wrth greu lleoedd cynaliadwy. Yn fwy penodol, rydym ni’n edrych ar dri prif faes.
Trawsnewid ac addasu dan arweiniad y gymuned
Mae cwestiynau allweddol ynghylch trawsnewid ac addasu’n ystyried sut rydym yn annog arloesedd cymdeithasol ym maes cynhyrchu a defnyddio. Mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni a Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd mewn perthynas â systemau cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy mewn cymunedau.
Symudedd cynaliadwy
Mae systemau trafnidiaeth yn rhan greiddiol o greu lleoedd cynaliadwy, o gynnal hyfywedd cymunedau gwledig anghysbell i leihau allyriadau carbon o fewn eco-ddinasoedd. Mae’r ymchwil hwn yn adeiladu ar waith ymchwil blaenorol i symudedd cynaliadwy a cherbydau trydan, gan weithio gydag Ysgol Peirianneg, Ysgol Seicoleg, Ysgol Busnes ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.
Y gymuned a'r amgylchedd
Mae ein gwaith yn archwilio’r ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol sy’n strwythuro ac yn llywio’r perthnasoedd rhwng cymunedau a’u hamgylcheddau lleol.
Tîm ymchwil
Yr Athro Ken Peattie
Head of Marketing and Strategy, Professor of Marketing and Strategy, Director of BRASS
- peattie@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 20879691