Mae sawl agwedd sylfaenol ar greu lleoedd cynaliadwy, gan gynnwys datblygu systemau mwy cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth, cynhyrchu a dosbarthu bwyd, rheoli ynni a gwastraff a darparu tai, yn dibynnu ar ble a sut mae pobl yn byw.
Mae’r rhaglen hon yn astudio’r berthynas rhwng nodweddion systemau a chynaliadwyedd ar draws gwahanol gyfraddau gofod ac amser. Mae’n ystyried sut mae systemau ar sail lleoedd yn cynnal eu hunain, neu’n destun newid dan amgylchiadau amrywiol.
Gan ailddiffinio’r ‘hafaliad bwyd newydd’, mae’r rhaglen hon yn gweithio ar ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl am ‘ryngweithiadau bwyd ar sail lle’ sy’n ystyried y rhyngweithiadau yn y system gyfan, gan ddechrau gyda bioamrywiaeth a symud trwy faes cynhyrchu a defnyddio.
Mae risg yn rhan gynyddol ganolog o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a meysydd bywyd cyhoeddus a diwydiannol - efallai mai dyma’r brif safbwynt y mae gwyddonwyr, diwydianwyr, gwneuthurwyr polisi a’r cyhoedd yn ei ddefnyddio i nodweddu a dadlau ynghylch materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, o newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth.
Mae’r rhaglen yn darparu canolfan annibynnol i helpu i fynd i’r afael â materion a phryderon trefol penodol. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd ymchwil trawsffiniol i gysylltu â gwaith mewn dinasoedd yn y dyfodol o ran creu lleoedd cynaliadwy. Mae’r rhaglen yn ymgorffori’r gweithgareddau a wneir ar draws themâu sy’n integreiddio â’i gilydd yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.