T-GRAINS: Trawsffurfio a Magu Perthnasoedd o fewn systemau bwyd rhanbarthol er mwyn Gwella Maeth a Chynaliadwyedd
Bydd y prosiect aml-sefydliadol yn ystyried a all system fwyd sy’n seiliedig ar ranbarthau yn y DU gynnig diet iachus a chynaliadwy, ac a ellir sicrhau gwydnwch yn y system trwy gryfhau cyfalaf cymdeithasol ymysg rhanddeiliaid system bwyd.
Cynhelir y prosiect ar y cyd â Rothamsted Research, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Northumbria a Choleg Gwledig yr Alban, a nod y prosiect yw cynyddu’r gyfran o ddeiet iachus sy’n cynnwys bwyd a gynhyrchir yn lleol.
Drwy ganolbwyntio ar ddau ranbarth gwahanol ar gyfer yr astudiaeth achos, East Anglia (wedi’i dominyddu gan amaethu âr a garddwriaeth) a de Cymru (wedi’i dominyddu gan systemau da byw), bydd T:GRAINS yn ystyried sut gall tirweddau rhanbarthol y DU gyflwyno cynaliadwyedd bwyd iachus ac a all perthnasau newydd a chywerth rhwng y rheini sy’n cymryd rhan yn y gadwyn fwyd hyrwyddo cynhyrchiant ac arferion treulio mwy cynaliadwy.
Yn rhan o’r ymchwil, bydd y tîm hefyd yn asesu’r effaith y gall cysylltu defnyddwyr yn uniongyrchol â chynhyrchwyr ei chael ar ddiwylliant bwyta cartrefi er mwyn cyflawni deietau iachus a chynhyrchu bwyd sy’n fwy cynaliadwy. Bydd y tîm yn ystyried rôl bresennol y cyfryngau cymdeithasol (Twitter er enghraifft), a’r rôl yn y dyfodol, o ran adeiladu a chryfhau perthnasau cynhyrchydd-cynhyrchydd a chynhyrchydd-defnyddiwr a sut y gellir manteisio ar y rhain fwy fyth.
‘Rhaglen System Fwyd Fyd-eang’ Diogelwch Bwyd Byd-eang sy’n ariannu’r prosiect, gyda chefnogaeth gan Gyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) a Llywodraeth yr Alban.
Gwersi a ddysgwyd: Adroddiad interim astudiaeth cyfweliad aelwyd TGRAINS
Mae astudiaeth cyfweliad TGRAINS yn astudiaeth hydredol i weld a yw’r cysylltiad rhwng pobl a ffynhonnell eu bwyd yn effeithio ar ddiwylliant bwyd yr aelwyd neu beidio.