Morwellt
Mae’r Grŵp Ymchwil Ecosystem Morwellt (SERG) yn brosiect ymchwil morol cydweithredol rhyngddisgyblaethol rhwng biolegwyr morol yn yr Ysgol Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe a myfyrwyr morol rhyngddisgyblaethol yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.
Mae ein Cymrawd Ymchwil Dr Leanne Cullen-Unsworth, ynghyd â’r myfyriwr PhD Richard Lilley a’r Cynorthwyydd Ymchwil Benjamin Jones yn cynnal gwaith ymchwil sylfaenol a chymhwysol i strwythur, swyddogaeth a gwydnwch dolydd morwellt, o fewn system ecolegol cymdeithasol cysylltiedig, ac maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar eu gwasanaeth darparu bwyd.
Mae’r grŵp yn cynnal yr ymchwil yng Nghymru, ond maen nhw hefyd yn gweithio yn Indonesia, Ynysoedd Turks a Caicos yn y Caribî, Cambodia, y Philipinau, Sri Lanka a Gwlad Groeg. Dysgwch fwy am eu gwaith ym mhedwar ban byd.
Mae Grŵp Ymchwil Ecosystem Morwellt hefyd wedi sefydlu eu sefydliad elusennol eu hunain, sef “Prosiect Morwellt” sy’n gweithio i wella ein dealltwriaeth o systemau morwellt yn y DU a thu hwnt a chodi ymwybyddiaeth o’u gwerth fel gwasanaeth ecosystem. Dysgwch fwy am y Prosiect Morwellt.
Tîm y Prosiect
Rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar forwellt.